Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Chwefror 2020
Mae pêl-droed i ferched yn cynyddu’n sylweddol yn Nhorfaen, gyda chlybiau lleol yn croesawu’r cynnydd yn nifer y merched sy’n cofrestru i gymryd rhan yn y gamp.
Yr wythnos hon, mae dros 160 o ferched o ysgolion cynradd o bob cwr o Dorfaen wedi cymryd rhan yng ngŵyl bêl-droed pum bob ochr, dan ofal adran Datblygu chwaraeon Torfaen, yn Stadiwm Cwmbrân.
Gyda chefnogaeth Sir yn y Gymuned, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a chlybiau pêl-droed lleol, cynhelir y gwyliau i godi proffil pêl-droed i ferched ymhellach yn Nhorfaen a chreu mwy o gyfleoedd i ferched ymuno â chlybiau lleol.
Fe wnaeth cyfanswm o 25 o dimau o blith blynyddoedd 3,4,5 a 6 gymryd rhan yn yr ŵyl.
Daeth ysgol Treftadaeth Blaenafon a Phadre Pio wyneb yn wyneb yn rownd derfynol Blwyddyn 5/6, a chystadlu am le yn nhwrnamaint Sêr Uwch Gynghrair merched dan 11 y clybiau de orllewin.
Mewn brwydr agos iawn, Padre Pio aeth â’r fuddugoliaeth, gan ennill o 3-2 gôl gosb a byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli’r gymuned yn y twrnamaint sy’n cael ei chynnal ar 26 Mawrth 2020 yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Dyma’r ysgolion eraill a gymerodd ran:
- Ysgol Gynradd Garnteg
- Ysgol Gynradd 3 Bears
- Ysgol Gynradd George Street
- Ysgol Gynradd Pen-y-garn
- Ysgol Gynradd Henllys
- Ysgol Gynradd Woodlands
- Ysgol Gynradd Gatholig Our Lady of the Angels
- Ysgol Gynradd Pontnewydd
- Ysgol Gynradd Greenmeadow
- Ysgol Gynradd Griffithstown
- Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer
- Ysgol Gynradd Dewi Sant
- Ysgol Gynradd Nant Celyn
Roedd clybiau pêl-droed lleol yn cynnwys academi hyfforddi Coed Eva, Llanyrafon, Fairfield United, Transh a Thorfaen i gyd yn bresennol i gynnig cefnogaeth a chwilio am dalent newydd.
Dywedodd Jacob Guy, Swyddog Datblygu Chwaraeon, 'Mae'r rhaglen merched yn unig yn rhan o brosiectau Ffocws Chwaraeon 'Chwaraeon Torfaen, sy'n targedu grŵp neu gamp benodol yn bennaf i gynyddu cyfleoedd a chysylltiadau â chlybiau lleol. Mae'n amgylchedd perffaith i bobl ifanc roi cynnig arni ac os ydynt yn awyddus, i ymuno â chlwb! '
I gael gwybod mwy am y prosiectau chwaraeon diweddaraf cysylltwch ag Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633628936 neu e-bostiwch: jacob.guy@torfaen.gov.uk