Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26 Chwefror 2020
Mae Datblygu Chwaraeon Torfaen, ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, ar fin lansio ymgyrch newydd i dargedu iechyd corfforol a lles meddyliol dynion.
Ar ôl ymgyrch lwyddiannus #OsEiDiAfI, bydd ‘Dyn Gwell' Torfaen yn canolbwyntio ar dynnu rhai o’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iechyd corfforol a meddyliol da a bydd yn annog dynion i fyw bywyd mwy gweithgar, iach a di-straen.
Bydd y rhaglen 10 wythnos yn dechrau ddydd Llun, 6 Ebrill ac mae’n agored i ddynion sy’n byw yn Nhorfaen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 15 Mawrth.
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i ddatblygu’n iachach, cryfach a mwy heini. Bydd hyn yn digwydd trwy:
- Sesiynau grŵp
- Sesiynau hyfforddiant personol
- Sesiynau cyngor ar faeth
- Sesiynau mentora
- A thrwy greu rhwydweithiau o gefnogaeth
Fel rhan o’r ymgyrch, bydd tîm Datblygu Chwaraeon Torfaen yn gweithio gydag unigolion i gael dealltwriaeth well o pam nad ydyn nhw’n gwneud cymaint o ymarfer corff ag yr hoffan nhw, ac wedyn yn cynnig cefnogaeth benodol iddyn nhw gyrraedd eu nod.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg, y Cyng. David Yeowell: 'Mae’n gyffrous cael lansio ymgyrch Dyn Gwell Torfaen a hoffem ni weld hyn yn cael yr un llwyddiant ag ymgyrch #oseidiafi.
‘Mae os ei di af i wedi bod yn hynod o lwyddiannus, ac yn ystod yr ymgyrch yma rydym wedi gweld menywod yn cyflawni nifer o nodau personol a gwneud newidiadau sylweddol i’w hiechyd.
‘Rydym nawr am weld dynion Torfaen yn dechrau gwneud newidiadau a fydd yn newid eu bywydau. Mae cefnogi pobl fwyaf bregus Torfaen yn un o flaenoriaethau’r cyngor, felly rydym am i ddynion a allai fod angen help gyda’u hiechyd meddyliol a chorfforol fyw bywyd mwy iach os yw hynny’n bosibl.’
Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, Ben Jeffries: ‘Mae gwyddoniaeth wedi profi bod cymryd rhan mewn ymarfer corff, byw’n iach a ffurfio perthnasau ystyrlon yn gallu gwella lles meddyliol a chorfforol rhywun yn sylweddol.’
'Felly os nas oes gennych chi’r hyder i adael y tŷ a mynd i redeg am y tro cyntaf, neu’n cael trafferth i gael hyd i’r amser mewn bywyd prysur i wneud cymaint ag y bydden nhw’n hoffi, bydd ein hymgyrch Dyn Gwell yn gweithio gyda dynion ar draws y fwrdeistref i daclo rhai o’u heriau personol yn ddyddiol.’
Os hoffech chi wneud cais am y cyfle yma, danfonwch neges uniongyrchol i’r tîm trwy dudalennau Facebook neu Twitter Chwaraeon Torfaen, neu, danfonwch e-bost at ben.jeffries@torfaen.gov.uk