Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Chwefror 2020
Yn ystod hanner tymor, fe wnaeth dros 500 o blant a phobl ifanc fynychu chynlluniau chwarae ar draws y fwrdeistref.
Rhoddodd 80 o wirfoddolwyr o’u hamser rhydd i weithio ochr yn ochr gweithwyr cyflogedig i sicrhau bod yr holl blant yn yr amrywiol leoliadau ledled Torfaen yn cymryd rhan mewn amgylchedd diogel a difyr.
Fe wnaeth dros 60 o blant ag anableddau fynychu’r sesiynau, felly’n darparu seibiant mawr ei angen i rieni a gofalwyr.
Mae'r sesiynau rhad ac am ddim wedi annog plant i gymryd rhan mewn celf, crefft, gweithdai cerdd, gweithgareddau chwaraeon a gemau grŵp i enwi ond ychydig.
Darparwyd byrbrydau iach am ddim ym mhob safle ac fe'u hariennir gan Gynghorau Cymuned Torfaen a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Blant a Phobl Ifanc, ‘Unwaith eto mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn rhoi o’u hamser rhydd i sicrhau bod gan blant amgylchedd diogel a chroesawgar i chwarae dros gyfnod hanner tymor.’
'Rydyn ni'n gwybod bod llawer o deuluoedd sy'n gweithio yn elwa o'r gwasanaethau mae Chwarae Torfaen yn eu cynnig trwy gydol y flwyddyn ac mae hyn yn dyst i'r paratoadau a'r ymroddiad a welwyd o du’r gweithwyr chwarae a gwirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn.'
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen, 'Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n tîm chwarae, y gweithwyr tymhorol a'r gwirfoddolwyr am eu hymdrechion caled dros gyfnod hanner tymor. Os hoffai unrhyw un wirfoddoli gyda ni yr haf hwn ac ennill rhywfaint o brofiad gwerthfawr yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yna cysylltwch â ni. '
Gallwch wneud cais i fod yn wirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Chwarae trwy wefan Torfaen neu drwy Ap Torfaen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 3 Ebrill 2020.
Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Chwarae Torfaen ewch i’w tudalennau ar ein gwefan - www.torfaen.gov.uk neu danfonwch e-bost at Andrea.sysum@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742951