Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Chwefror 2020
Ar ddydd Mawrth 4ydd Chwefror 2020 cafodd busnesau o Dorfaen a Chasnewydd, ynghyd ag aelodau o Lais Busnes Torfaen, gyfle i fwynhau noson o rwydweithio gyda’r bwriad o greu partneriaethau busnes agosach ar draws y siroedd.
Cynhaliwyd y digwyddiad a drefnwyd gan Economi a Mentergarwch Torfaen a Datblygiad Economaidd Casnewydd, yn Rodney Parade, Casnewydd.
Daeth dros 100 o bobl busnes o amrywiaeth o sectorau i gymryd mantais o gyfle am ddim i gyflwyno’u busnesau i’w gilydd trwy rwydweithio anffurfiol ac wedi ei hwyluso, a bwffe.
Hwn oedd yr ail ddigwyddiad Cwrdd â’ch Cymydog Busnes a gynhaliwyd gan Economi a Mentergarwch Torfaen, Cyngor Torfaen ac mae’n dilyn menter lwyddiannus gyda Blaenau Gwent yn 2019.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio yng Nghyngor Torfaen: “Mae rhoi cyfleoedd i helpu i ffurfio perthnasau busnes ar draws ffiniau sirol yn gam cadarnhaol tuag at gryfhau ein heconomi leol. Rwy’n siŵr y bydd mentrau llwyddiannus ar y cyd fel y rhain yn helpu i adeiladu a gwneud y mwyaf o frwdfrydedd ac ymrwymiad busnesau yn y rhan yma o dde ddwyrain Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog gyda chymaint o bobl yno ac roedd yn wych cwrdd â chynifer o bobl sy’n cynrychioli ein busnesau anhygoel yng Nghasnewydd a Thorfaen. Mae cydweithio gyda’n cymdogion a chyflwyno busnesau i’w gilydd, yn gwneud synnwyr perffaith gan ein bod ni i gyd yn rhannu’r un uchelgais i helpu cyflogwyr i ffynnu, hybu’r economi leol a gwella cyfleoedd am swyddi i’n trigolion.”