Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 12 Chwefror 2020
Ar ddydd Mawrth (11 Chwefror), dangosodd disgyblion Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd George Street eu campweithiau ysgrifenedig yn Llyfrgell Pont-y-pŵl.
Ar ôl ymweld â’r llyfrgell y mis diwethaf, a gwrando ar 'The Journey Home' a ysgrifennwyd gan Frann Preston-Gannon, cafodd disgyblion eu hysbrydoli i greu eu llyfrau eu hunain. Gweithiodd athrawon gyda’r disgyblion yn ystod y mis i greu’r straeon ar ôl help gan lyfrgelloedd i greu cymeriadau difyr yn ystod yr ymweliad cyntaf.
I gael gwybod rhagor am lyfrgelloedd Torfaen ewch i https://www.torfaen.gov.uk/en/Libraries/Libraries.aspx
I gael gwybod beth sy’n digwydd o ran digwyddiadau llyfrgell, dilynwch @TorfaenLibraries ar Facebook neu @TorfaenLibrary ar Twitter