Noson hudolus yn llyfrgell Cwmbrân

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Chwefror 2020
Children at Harry Potter evening

Cafwyd noson lawn a hwyliog ar thema Harry Potter neithiwr (Dydd Iau, 6ed Chwefror) yn Llyfrgell Cwmbrân.

Ar ôl i’r plant barcio’u hysgubau, cafwyd darlleniad byr o’r Ffiol Fflamau.  Yna, roedd gwneud dreigiau, creu drysfa LEGO i angenfilod bach Hagrid, helfa drysor am ddarnau hud, ac, yn olaf, bu’r plant yn cynllunio tŷ hud newydd ar gyfer Twrnamaint y Tri Dewin.

Ar ôl noson wirioneddol hudolus, cafodd pob dewin dystysgrif cyn iddyn nhw hedfan i ffwrdd eto.

I ddysgu rhagor am lyfrgelloedd Torfaen ewch i https://www.torfaen.gov.uk/cy/Libraries/Libraries.aspx

I wybod y diweddaraf am ddigwyddiadau yn y lyfrgelloedd, dilynwch @TorfaenLibraries ar Facebook neu @TorfaenLibrary ar Twitter

Diwygiwyd Diwethaf: 07/02/2020 Nôl i’r Brig