Pontypool Market Pop-Up Stalls

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Rhagfyr 2020

Er bod Neuadd y Farchnad ar gau i’r cyhoedd, bydd stondinwyr hanfodol ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn masnachu yr wythnos yma mewn siopau ‘sbonc’ wrth y mynedfeydd ar Stryd y Garan a Stryd y Farchnad.

Byddwch yn dal i allu prynu’ch cynnyrch Nadolig o’n masnachwyr hanfodol rheolaidd gan gynnwys

Plums & Roses ar gyfer eich ffrwythau  a llysiau; Phil's Pantry ar gyfer eich holl gig Nadolig gan gynnwys twrci, cig moch a selsig; Penrhiwgyngi Farm Bakery ar gyfer teisennau a bara; a Warren’s Wholefoods ar gyfer perlysiau, sbeis a chnau!

Mae The Market Garden yn cynnig gwasanaeth clic a chasglu o Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl, ewch at eu tudalen Facebook neu ffoniwch 07535 741371 i archebu neu i drefnu casgliad.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022 Nôl i’r Brig