Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2020
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ac yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf gan y Prif Swyddog Meddygol, bydd ysgolion uwchradd yn Nhorfaen yn symud i ddysgu cyfunol yn ystod wythnos olaf y tymor fel rhan o ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiadau coronafirws.
Bydd ysgolion cynradd yn parhau i ddysgu yn yr ysgol tan ddydd Mercher gyda dysgu cyfunol yn digwydd ddydd Iau a dydd Gwener, sef dau ddiwrnod olaf y tymor.
Nid yw hwn yn wyliau Nadolig cynnar a byddem yn annog pob rhiant a disgybl i leihau cysylltiad ag unrhyw un y tu allan i'w cartref. Gweithredwch nawr, fel na fyddwch yn gwahodd Coronafirws i'ch cartref y Nadolig hwn.