Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Awst 2020
Ar ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod busnesau sy’n cynnig gwasanaethau cysylltiad agos megis gwasanaeth barbwr a thrin gwallt yn cael agor unwaith eto, mae Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Torfaen wedi bod yn ymweld â busnesau barbwr i gynnig cyngor ac arweiniad ar reoli COVID-19.
Heb reolaeth ddigonol, gallai’r busnesau hyn gynrychioli risg uchel i’w cwsmeriaid a’u staff. Ymwelwyd â mwy nag 20 eiddo ledled y fwrdeistref, gan roi cyngor ymarferol ar:
- ddefnyddio offer amddiffynnol yn gywir
- trefniadau glanhau a diheintio
- sicrhau cadw pellter cymdeithasol
- defnyddio systemau apwyntiad i osgoi cwsmeriaid yn aros yn yr eiddo
- cofnodi manylion cyswllt cwsmeriaid i ddibenion Tracio ac Olrhain
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol ar gyfer yr amgylchedd: “Rhoddwyd cyngor ymarferol i berchnogion siopau gan swyddogion, gyda chopïau o’r cyfarwyddyd, a’u cyfeirio at adnoddau defnyddiol ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Yn ystod yr ymweliadau, hysbyswyd perchnogion o unrhyw welliannau sydd eu hangen i gydymffurfio gyda’r gyfraith a safonau arferion gorau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae swyddogion wedi gallu cadarnhau bod y cyngor wedi eu dderbyn a’i roi ar waith. Serch hynny, roedd un barbwr a oedd wedi methu â gwneud y gwelliannau gofynnol a chafwyd ei fod yn torri’r rheolau ar ôl yr ymweliad cyntaf. O ganlyniad, cyflwynwyd hysbysiad cyfreithiol ar y busnes yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cymryd camau i sicrhau cydymffurfedd. Bydd swyddogion yn ymgymryd ag ymweliadau pellach â’r busnes.
“Roedd yn dda gweld bod mwyafrif y busnesau barbwr wedi mabwysiadu arferion diogel a’u bod yn gweithredu’n gyfrifol. Mae swyddogion y cyngor bob amser yn ceisio helpu busnesau i gydymffurfio drwy weithio gyda’i gilydd. Fodd bynnag, lle nad yw busnesau yn gwneud y peth iawn, ni fydd swyddogion yn petruso i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion a’r busnesau sy’n gweithio’n galed yn y cyfnod anodd hwn i helpu Torfaen i ddychwelyd yn ddiogel i’r normal newydd.”
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae busnes yn gweithredu yn ystod Covid-19 ffoniwch 01495 762200 neu ebostiwch commercial.services@torfaen.gov.uk