Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Ebrill 2020
Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o dîm Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Torfaen hysbysiadau cosb benodedig i'r Hanbury Arms, ar Clarence Street, Pont-y-pŵl ar ôl i gwsmeriaid gael eu darganfod yn yfed wrth y bar.
Gan ddefnyddio’r pwerau o fewn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) 2020, sef deddfwriaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd mewn ymateb i'r pandemig Coronafirws, cyflwynwyd hysbysiadau ddydd Gwener 24 Ebrill yn dilyn achos o dorri’r rheoliadau newydd ar y 10fed a'r 11eg o Ebrill, o gwmpas yr adeg yr oedd y pandemig yn ei anterth.
Cyflwynwyd Hysbysiadau Gwahardd i'r rheolwr a deiliad trwydded yr adeilad a rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig o £60 i'r rheolwr. Digwyddodd y camau gorfodi ar ôl i swyddogion yr heddlu lleol ddod o hyd i aelodau o'r cyhoedd yn yfed wrth y bar.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Torfaen sy’n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “Yn ystod y cyfnod argyfwng canfuwyd bod cwsmeriaid yn yfed alcohol yn y dafarn hon. Er bod mwyafrif llethol y busnesau a’r cyhoedd yn dilyn cyngor y llywodraeth, mae’r cyngor a’r heddlu yn parhau i fonitro ein hardal i sicrhau bod busnesau’n cadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn helpu i achub bywydau.
“Bydd yr eiddo hwn, ac eraill sy'n cael eu riportio i ni, yn cael eu monitro gan y cyngor a'r heddlu am unrhyw doriadau pellach. Bydd methu â chydymffurfio yn cychwyn camau ffurfiol pellach ar ffurf cosbau penodedig uwch ac o bosibl, erlyniad gan y llysoedd.”
Mae hysbysiadau cosb benodedig yn £60 am yr achos cyntaf a £120 am ail achos a rhaid eu talu cyn pen 28 diwrnod.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Mae sicrhau bod ein holl bartneriaid yn cael y gefnogaeth i orfodi er mwyn diogelu cymunedau a’r GIG yn flaenoriaeth i’r sefydliad.
“Rydyn ni eisiau ymgysylltu, egluro a phwysleisio pa mor bwysig ydyw i aros gartref. I'r rhai sy'n parhau i fynd yn groes i gyngor Llywodraeth Cymru, byddwn yn gorfodi.
“I bawb sy’n dilyn y cyngor i aros gartref, rydym yn diolch ichi am eich cydweithrediad”
Gall y cyngor a'r heddlu hefyd ystyried adolygu trwydded yr adeilad.