Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Ebrill 2020
I’r rhai ohonoch sy’n gadael i’ch gardd, neu rannau ohoni, fynd yn wyllt ar y funud, ydych chi wedi gweld unrhyw blanhigion newydd a diddorol yn tyfu? Ydych chi wedi cael ymweliad gan unrhyw drychfilod newydd ac ati nad ydych wedi eu gweld o’r blaen?
Os ydych wedi llwyddo tynnu llun, neu os ydych awydd tynnu lluniau o’ch bywyd gwyllt newydd, byddai’r Bartneriaeth Natur Leol (PNL) rydym yn rhan ohoni wrth eu bodd yn eu gweld.
Rhannwch eich ffotograffau ar dudalen Facebook PNL yma https://www.facebook.com/groups/522431315138328/ neu ar Twitter gan dagio @BGTorfaenLNP neu Instagram @bgandtorfaenlnp