Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Ebrill 2020
Blaenoriaeth y llywodraeth yw arbed bywydau a’r ffordd orau i ddiogelu chi’ch hunain ac eraill rhag salwch yw aros gartref.
Serch hynny, mae ymarfer corff yn dal i fod yn bwysig i les corfforol a meddyliol pobl, felly mae’r llywodraeth wedi dweud fod pobl yn gallu gadael eu cartrefi ar gyfer ymarfer corff unwaith y diwrnod.
Ystyrir fod y risg fod pobl sy’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau eraill yn trosglwyddo’r coronafeirws i eraill yn isel iawn cyhyd ag y bo pobl yn dilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth i gadw ar wahân.
Does gan dirfeddianwyr ddim hawl cyfreithiol i rwystro hawliau tramwy cyhoeddus. Serch hynny, mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, pan fo nifer fawr o bobl yn defnyddio llwybrau o’r fath, gall tirfeddianwyr ystyried y camau canlynol:
- clymu clwydi i’w cadw ar agor, os yw’n ddiogel gwneud hynny, fel nad oes rhaid i gerddwyr gyffwrdd â’r glwyd.
- arddangos hysbysiadau cwrtais dros dro i annog pobl i barchu trigolion lleol a gweithwyr trwy ddilyn canllawiau ar gadw ar wahân ac ystyried defnyddio llwybrau amgen sydd ddim yn mynd trwy gerddi, cyrtiau fferm neu ysgolion.
- cynnig llwybr amgen o amgylch gerddi a chyrtiau fferm dim ond pan fo hynny’n ddiogel (rhaid i chi gael caniatâd y perchnogion tir perthnasol a sicrhau fod y ffordd yn ddiogel i ddefnyddwyr a da byw) cyhyd ag y bo’r ffordd wreiddiol yn cael ei chynnal.
Bydd y mesurau dros dro yma’n cael eu codi cyn gynted ag y bydd mesurau cadw ar wahân yn cael eu llacio.