Galw ar gynghorwyr i daro tra bo'r haearn yn boeth

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 10 Hydref 2016
BRITISH for web

Gofynnir i gynghorwyr Torfaen brynu hen safle gwaith haearn sy'n cael ei alw yn safle’r 'British', mewn cyfarfod y cyngor ar 18 Hydref.

Ar ôl cyfres o gynlluniau sector preifat a fethodd dros gyfnod o 30 mlynedd, mae cyngor Torfaen yn ceisio cymeradwyaeth gan gynghorwyr i brynu safle'r British yn Abersychan.

Yn 1300 o erwau, y British yw'r safle mwyaf sydd ar ôl o'r diffeithdra diwydiannol yn Ne Ddwyrain Cymru.

Yn dilyn misoedd o drafodaethau mae'r cyngor wedi dod i gytundeb gyda'r perchnogion presennol, sef Banc HSBC, i brynu'r safle am £300,000 fyddai'n golygu y byddai'r safle yn dychwelyd i berchnogaeth y cyhoedd cyn diwedd 2016.

Bydd gofyn i Gynghorwyr ystyried cynllun gwerth £3.7 miliwn, sy'n cynnwys grant gwerth £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru at y diben o brynu'r safle, mynd i'r afael â'r risgiau iechyd a diogelwch, ac ail-osod gwyrddni ar y safle.

Gofynnir hefyd iddynt gymeradwyo cyfraniad o hyd at £2 filiwn o gyllideb gyllid cyfalaf y cyngor i ariannu grant gan Lywodraeth Cymru yn gyfatebol.

Dywedodd Duncan Smith, y Prif Swyddog dros Gymdogaethau, Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd: 'Mae'r cynnig i'r cynghorwyr yn gyfle unwaith mewn oes i'r cyngor brynu'r safle a rhoi terfyn ar gylch 30 mlynedd o gynlluniau hapfasnachol sydd wedi gwneud dim ond llesteirio'r cyfle i adfywio'r safle a'r ardal ehangach.

‘Mae swyddogion y Cyngor wedi llunio cynllun busnes fydd yn adfer y safle ac yn mynd i'r afael â'r gweithfeydd cloddio a'r tomennydd a grëwyd yn ystod y cyfnod cynhyrchu haearn a ddaeth i ben yn y 1880au. Bu'r safle’n dirywio ers hynny.'

Dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington CBE, arweinydd cyngor Torfaen: 'Mae'r British wedi bod yn gwmwl dros y gymuned hon ers cenedlaethau. Mae'r cyngor wedi ceisio chwilio am ateb ar gyfer nifer o flynyddoedd er mwyn berchen ar y British ac archwilio cyfleoedd i ailddatblygu ar y safle tir llwyd hwn. Yn olaf, gallai'r cynnig hwn rhoi diwedd ar y cylch o anobaith a chael gwared ar y bygythiad sydd wedi hofran dros y gymuned yn dilyn nifer o gynlluniau hapfasnachol i fancio tir neu echdynnu glo, na lwyddodd i ddwyn ffrwyth.

'Gallai hwn fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad yng ngogledd y fwrdeistref, ac, os caiff ei gymeradwyo, gall y cyngor archwilio'r cyfleoedd hirdymor ar gyfer y safle, gan gynnwys adfer yr adeiladau hanesyddol, creu tai fforddiadwy, cyfleoedd masnachol a chyfleoedd ynni gwyrdd. Byddwn hefyd yn ceisio meithrin partneriaeth ffurfiol gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent sydd wedi mynegi diddordeb mewn rheoli'r gofodau gwyrdd a phyllau fydd yn denu ymwelwyr, annog gweithgareddau awyr agored iach a sicrhau y bydd yr ardal yn lle mwy deniadol i fyw, ymweld â hi a gweithio ynddi. '

'Gyda golau ar ddiwedd y twnnel, mae'n rhaid i mi ganmol Grŵp Cyswllt Y British am eu hangerdd dros gyfnod o 20 mlynedd, ac, os bydd y cynllun hwn yn symud yn ei flaen, bydd y cyngor a phartneriaid yn parhau i weithio'n agos gyda nhw.'

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, dirprwy arweinydd Cyngor Torfaen: 'Mae'r cyngor wedi gweithio'n gyflym a phendant i drafod prynu'r safle a phecyn cyllid gwerth £3.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr arian yn helpu i brynu'r safle, mynd i'r afael â risgiau ac atebolrwydd yn y dyfodol ac adfer y safle ar gyfer y gymuned ac er lles gogledd Torfaen yn ei gyfanrwydd.

'Mae swyddogion y Cyngor wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol mis Medi i nodi opsiwn dewisol a datblygu cynnig dichonadwy ar gyfer ariannu'r prosiect. Rhaid i mi ganmol swyddogion sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn yn ogystal â Lynne Neagle am ei holl gefnogaeth. Rhaid i mi hefyd ganmol Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Cymru am ei weledigaeth wrth gymeradwyo'r cynllun hwn, a fydd, os caiff ei gymeradwyo, yn helpu'r cyngor i gyflawni blaenoriaeth i wneud y fwrdeistref yn wyrddach a dychwelyd y safle hwn i’r man y gellir ei ddefnyddio gan y cyhoedd.’

Meddai Lynne Neagle AC:

"Rwy'n falch iawn, yn dilyn sylwadau gan Gyngor Torfaen a minnau, bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i’r cyngor brynu ac adennill y tir ar safle'r British. Mae hefyd yn dyst i ymrwymiad y Cyngor i ymdrin â'r British; eu bod wedi llwyddo i ganfod arian cyfatebol pan rwy'n gwybod bod eu cyllidebau o dan bwysau aruthrol. "

"Ers llawer gormod o amser, mae'r safle wedi cael ei phasio o un perchennog preifat i'r nesaf. Mae'r gymuned wedi aros amser hir am y cynnig hwn, ac, os caiff ei gymeradwyo byddaf yn parhau i weithio gyda phawb sy'n gysylltiedig ag ef, i sicrhau bod y tir yn cael ei adfywio i'w lawn botensial."

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 Nôl i’r Brig