Darllen yn Well

Cyflwynir y cynllun gan yr Asiantaeth Ddarllen sy'n gweithio mewn partneriaeth â Libraries Connected, gydag arian gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae'r llyfrau hunangymorth o ansawdd uchel wedi'u dewis yn arbennig gan seicolegwyr a chwnselwyr sy'n gweithio yn y DU. Mae casgliadau'n cael eu cymeradwyo gan bartneriaid iechyd blaenllaw ac yn cael eu hyrwyddo gan lyfrgelloedd cyhoeddus.

Gellir benthyca llyfrau o holl lyfrgelloedd Torfaen.

Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl

Mae'r casgliad hwn yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ddefnyddiol ar gyfer rheoli mân gyflyrau iechyd meddwl i gyflyrau iechyd meddwl cymedrol, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Ymhlith y pynciau mae rheoli dicter, pryder, pendantrwydd a hunan-barch isel, profedigaeth, iselder ysbryd, anhwylderau bwyta, a straen. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy'n byw gyda neu'n gofalu am rywun ag anghenion iechyd meddwl.

Darllen yn Well ar gyfer Dementia

Gall y llyfrau hyn fod o gymorth i unrhyw un y mae dementia yn effeithio arno gan gynnwys perthnasau a gofalwyr. Mae teitlau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â llyfrau ffuglen, cofiant a ffotograffig a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion. Mae'r casgliad yn cefnogi'r Cynllun Gweithredu Dementia yng Nghymru.

Darllen yn Well i Blant

Mae'r casgliad hwn yn darparu deunyddiau darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant.

Mae'r rhestr lyfrau wedi'i thargedu at blant 7-11 oed, ond mae'n cynnwys llyfrau sydd wedi'u hanelu at ystod eang o lefelau darllen i gefnogi darllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen ar y cyd gyda’u brodyr a'u chwiorydd a'u gofalwyr.

Darllen yn Well i Bobl Ifanc yn eu Harddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn awgrymu llyfrau ac adnoddau digidol wedi’u hargymell i’ch helpu i ddeall eich teimladau, ac i hybu eich hyder. Mae pobl ifanc yn eu harddegau ac arbenigwyr iechyd a lles wedi dewis y llyfrau i’ch helpu i reoli eich emosiynau ac ymdopi ar adegau anodd.

Mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc yn eu harddegau (13–18) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac ennyn diddordeb.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/11/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig