Whistle Road i Bentre Piod

Taith gerdded hir ac egnïol dros Fynydd Coety 

Cychwyn: Whistle Inn, Blaenafon

Gorffen: Pentre Piod

Parcio: Maes Parcio Whistle Road

Pellter Bras: 15 cilometr / 9 milltir

Amser sy'n Ofynnol: 4 - 5 awr

Mae gan dafarn y Whistle Inn gasgliad rhyfeddol o lampau glowyr a soniodd Alexander Cordell amdani hefyd. Uwchben y Whistle Inn, ar lethrau Mynydd Coety a tuag at Waunafon hefyd, cynhaliwyd gornestau paffio â dyrnau noeth yn aml, wedi'u cuddio o olwg yr awdurdodau. Roedd y gornestau hir a blinderog hyn yn ffordd i rai ychwanegu at eu cyflogau gwael, gan fod y "pwrs" mawr am ennill yn gorbwyso'r perygl o gael eu hanafu neu eu lladd gan ergyd dinistriol.

Mae Fferm Waun Mary Gunter yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif. Roedd Mary yn aelod o deulu dylanwadol o dirfeddianwyr Catholig yn hen Sir Fynwy a barhaodd i ddilyn y grefydd Gatholig ar ôl y Diwygiad. Cynhaliwyd gwasanaethau cyfrinachol mewn capel cudd ym Mhlasty Gunter yn y Fenni. Yn ddiweddarach, cafodd offeiriad a guddiwyd yn rheolaidd gan deulu Gunter ei ddienyddio ym Mrynbuga ym 1678.

Byddwch yn mynd heibio i'r Pwll Mawr, sy'n cael ei alw hynny oherwydd i'w siafft eliptigol gafnu yn y 1860au, gan alluogi i ddwy ddram o lo gael eu codi i'r wyneb ochr yn ochr. Gan fod y Pwll Mawr yn un o Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, cewch fynd yno'n rhad ac am ddim, felly os nad oes gennych amser i fynd ar daith dywysedig dan y ddaear, cewch fynd i'r siop, y caffis a'r toiledau yno o hyd.

Mae'r tai yn Forgeside wedi'u hadeiladu mewn "rhesi". Mae'r rhain yn enghraifft wych o dai a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr, er mai dim ond rhesi C i E sydd ar ôl bellach. Mae adeilad yr hen efail yn strwythur brics coch a adeiladwyd yn y 1920au i gadw'r peiriannau yr oedd eu hangen i'r cyfadeilad ger yr efail gynhyrchu ei drydan ei hun. Adeiladwyd Gwaith Haearn Forgeside ar ddechrau'r 1860au i gymryd lle'r rhai yng Ngarnddyrus a thref Blaenafon gan fod y tir yn "rhydd-ddaliol", felly nid oedd angen i Gwmni Blaenafon dalu rhent tir i Arglwyddi'r Fenni. Roedd y safle ar dir mwy agored hefyd, a oedd yn caniatáu ar gyfer ymestyn o'r diwedd, ac roedd yn agos at reilffordd "newydd" Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNWR), a oedd yn rhedeg o Frynmawr, trwy Bont-y-pŵl ac ymlaen i Gasnewydd. Roedd gan y safle newydd ffwrneisi chwyth a ffwrneisi pwdlo, melinau rholio a melin deiars newydd a oedd yn cynhyrchu olwynion ar gyfer stoc y rheilffordd. Erbyn y 1880au, roedd y gwaith haearn yn cael ei alw'n y gwaith mwyaf modern a datblygedig yn y byd. Fodd bynnag, erbyn 1938, bu raid cau'r gwaith haearn gan iddi ddod mor ddrud i fewnforio deunyddiau crai. Fodd bynnag, nid yw traddodiad gofannu a rholio yr ardal yn dod i ben yno, gan i Doncasters gymryd yr hen felin deiars a siopau gwasg drosodd yn y 1950au a dechrau gofannu a rholio cylchoedd aloi. Defnyddiwyd cylchoedd Doncasters i adeiladu'r peiriannau jet a oedd yn gyrru awyrennau Concord. Mae sampl o'u cylchoedd wedi'i hymgorffori mewn cerflun ac ardal eistedd ym mhen Varteg Road y gymuned. Ar gornel C Row a Forge Road i'r chwith ohonoch ac i fyny rhodfa fechan, gallwch weld Tŷ Coety (sydd hefyd yn cael ei alw'n Tŷ Gwyn) trwy'r rheiliau, a adeiladwyd yn y 1860au gan Gwmni Haearn a Dur Blaenafon ar gyfer rheolwr y gwaith. Yna, hyd 1990, cafodd ei ddefnyddio fel adeilad gweinyddu cyffredinol gan Doncasters. Erbyn hyn, mae'n wag ac yn adeilad rhestredig gradd II.

Mae "Cofeb y Ci" ar Fynydd Coety, sef cofeb haearn i Carlo, cyfeirgi clodfawr a oedd yn perthyn i H M Kennard, Ysw o Neuadd Crymlyn a saethwyd trwy ddamwain ar 12 Awst 1864. Roedd Mr Kennard mewn grŵp saethu a drefnwyd gan Gwmni Blaenafon pan gafodd ei gi annwyl ei saethu. Gorchmynnodd am i'r ci gael ei gladdu yn y man lle cafodd ei ladd, a chafodd y gofeb ei bwrw yn y gwaith haearn cyn cael ei llusgo i fyny'r mynydd gan ferlod a'i chodi ar ben y bedd. Mae gan ddau o gŵn eraill Kennard, "Billy" a "Bones", farcwyr carreg sydd i'w gweld ar dir Tŷ Mawr ym Mlaenafon.

Adfeilion carreg yw Fferm y Graig Ddu erbyn hyn. Roedd y fferm hon yn dafarn ar un adeg hefyd, ac yn orsaf pynfeirch, yn ôl pob sôn. Gallai hwn fod yn lle da i chi aros os ydych wedi dod â bwyd a diod gyda chi, gan fod golygfeydd da o Abersychan a digon o gerrig i eistedd arnynt. (Daw'r enw Abersychan o'r ffaith y byddai nant Cwmsychan yn sychu yn yr haf neu'n diflannu o dan y ddaear hyd yn oed, gan ailymddangos ymhellach i lawr y cwm).

Edrychwch ar draws y cwm ar Abersychan sydd islaw ac fe welwch draphont drawiadol yn croesi cwm bychan. Adeiladodd y peiriannydd, John Gardiner, y draphont hon yn ystod y 1870au i gludo rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin a oedd yn rhedeg o Frynmawr i Flaenafon, gan gysylltu â rheilffordd GWR ym Mhont-y-pŵl. (Dyma'r rheilffordd y gwnaethoch ei chroesi ger y Whistle Inn). Ym 1912, agorwyd y rheilffyrdd i wasanaethau teithwyr yn ogystal â threnau mwynau, gan ei gwneud yn haws i lowyr a gweithwyr eraill deithio ar hyd y cwm. Daeth y gwasanaeth hwn i ben ym 1941 a gadawodd y trên mwynau olaf o'r Pwll Mawr ym Mlaenafon ym 1981. Cafodd y trac ei godi, ond mae'r llinell bellach yn rhan o lwybr hamdden a beicio sy'n mynd ar hyd a lled Torfaen.

Trowch i edrych i lawr y cwm ar safle Gwaith Haearn Abersychan (sydd hefyd yn cael ei alw'n y "British"). Agorodd y gwaith haearn yn y 1820au ac erbyn 1830 roedd yn gweithredu'n llawn, gan gynnwys chwe ffwrnais chwyth, ffwrneisi pwdlo, gefeiliau, melinau rholio a glofeydd a oedd yn cyflenwi'r holl lo yr oedd ei angen ar y gwaith haearn. I ddechrau, byddai'r barrau haearn a'r cledrau gorffenedig wedi cael eu llusgo gan dramiau ceffyl i lawr y cwm i'r gamlas ym Mhontnewynydd. Yn ddiweddarach, gosodd Cwmni Glynebwy reilffordd a oedd yn cysylltu'r gwaith â llinell mwynau "newydd". Arweiniodd cyflwyniad cledrau dur ym 1869 at fethiant nifer o weithfeydd haearn ac, ym 1876, cafodd gwaith Abersychan/British ei gau a'i ddymchwel.

Lawrlwythwch gopi o daflen  Llwybr Torfaen - Ffigur 8  sy'n cynnwys taith gerdded Whistle Road i Bentre Piod.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig