Porth Pont-y-pŵl

Comisiynwyd y cerflunydd arobryn, Robert Kennedy, i gydweithio â phobl ifanc yn Nhorfaen i greu celfyddydwaith ar gyfer tair cylchfan yn nhref Pont-y-pŵl.

Cydweithiodd Robert â thri chant a chwe deg o bobl ifanc yn Ysgol Gyfun Trefddyn, Ysgol Gyfun Gwynllyw ac Ysgol Gyfun Sain Alban i greu celfyddydwaith a oedd a gorffennol, presennol a dyfodol Pont-y-pŵl yn ffocws iddynt.

Mae gan bob un o'r cylchfannau thema wahanol wedi'i sbarduno gan syniadau niferus y rhai a gymerodd ran.

Beacon

Lleoliad

Mae cerflun Beacon wedi'i leoli ar yr ail gylchfan ar hyd ffordd osgoi Pont-y-pŵl, ar ben Heol Albion a gerllaw cylchfan Clarence.

Deunyddiau

Mae Beacon wedi'i adeiladu o ffrâm ddur wedi'i gorchuddio â gwenithfaen du a gwyn.  Ar ben y gwenithfaen y mae carreg Wilderness goch â phowlen wedi'i cherfio â llaw ar ei phen.

Disgrifiad

Ffrâm ddur wedi'i gorchuddio â gwenithfaen du a gwyn yw'r darn hwn, sy'n awgrymu siâp croes Geltaidd ac yn adlewyrchu'r cerfluniau traddodiadol sydd i'w gweld mewn pentrefi a threfi ledled Cymru.

Mae'r paneli du a gwyn yn adlewyrchu'r cyplysau at y gylchfan a'r ffrâm ddur y mae'r gwenithfaen wedi'i osod ynddi.

Ar ben y groes y mae powlen wedi'i cherfio â llaw, sy'n cyfeirio'n benodol at lafur y bobl niferus a ffurfiodd Pont-y-pŵl. Mae'r artist wedi addurno ochrau'r bowlen â dyluniad gweadeddol, gan gyfuno enwau lleoedd i symboleiddio fel mae lleoliadau gwahanol yn cyfuno i greu cymeriad y dref.

Mae gan frig uchaf y bowlen a'r cerflun cyfan 'ddŵr' wedi'i gerfio o garreg yn rheadru ohono, gan dalu teyrnged i afon Llwyd, y daeth ei dyfroedd â'r anheddwyr cyntaf i'r dref hon.

Mae Beacon yn cynrychioli dyddiadur o fywyd bob dydd wedi'i gymysgu â dathliad o'r gorffennol. Mae meddyliau pobl ifanc yn ymwneud â sgwrsio â pherthnasau'r gorffennol a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Dreamboats

Lleoliad

Mae cerfluniau Dreamboats wedi'u lleoli ar y gylchfan gyntaf ar y ffordd i mewn i Bont-y-pŵl, ar y briffordd i Grymlyn sy'n mynd tua'r gogledd-orllewin.

Deunyddiau

Adeiladwyd siapiau'r cychod o ddur gwrthstaen yn Panteg Steel Fabrications. Maent wedi'u mowntio'n unigol ar sylfeini carreg er mwyn eu cadw'n sad.

Disgrifiad

Bwriad y pum cwch a wnaed o ddur gwrthstaen gan Panteg Fabrications, yn unol â dyluniad yr artist, yw dathlu'r diwydiant dur ac atgoffa'r rheiny sy'n gyrru heibio am bwysigrwydd cludiant dŵr i gyflogaeth yr ardal yn y gorffennol. Mae iddynt siâp cychod papur sy'n eich atgoffa o blentyndod a hamdden ar afon Llwyd.

Mae'r arwyneb patrymog sydd wedi'i chwythellu ar y cychod yn adlewyrchu'r golau mewn ffyrdd gwahanol wrth i fodurwyr yrru heibio. Mae'r patrwm yn debyg i ddyluniad enwog 'Stormont' yn hen draddodiad llestri Japan.

Tower

Lleoliad

Mae cerflun Tower wedi'i leoli ar gylchfan y Pafiliwn ger allanfa'r gogledd tua chanol tref Pont-y-pŵl.

Deunyddiau

Mae Tower wedi'i adeiladu o lechfaen Cymreig â bloc o garreg Portland ar ei ben, ynghyd â phatrwm fflam wedi'i gerfio â llaw.

Disgrifiad

Yn wahanol i Beacon, sydd â lliw iddo, mae Tower yn atgoffâd tywyll o ddiwydiant trwm y cwm. Fe'i gwnaed o lechfaen Cymreig â geiriad gwyn. Mae'n dangos y ffordd i Flaenafon ar frig y cwm.

Mae brig y tŵr wedi'i wneud o garreg Portland â phatrwm fflam wedi'i gerfio â llaw sy'n awgrymu ffwrneisiau, presenoldeb, ysbryd a fflamiau syniadau. Mae enwau strydoedd wedi ymdoddi i'w gilydd i ffurfio patrwm arwynebol ar y brig ac ar dair ochr.

Cafodd pobl ifanc o Ysgol Gyfun Gwynllyw ddylanwad cryf ar y darn hwn. Cyn iddynt wneud unrhyw farciau neu luniau, cawsant eu hannog i edrych ar hanes yr ardal, pwy yw'r bobl a pham y maen nhw yma.

Maent yn archwilio sawl agwedd yn ymwneud â newid, hunaniaeth ddiwylliannol a'r cysylltiadau â'r iaith. Mae'r geiriau gwyn ar lechfaen du yn ein hatgoffa o ddyddiau ysgol.

Yn benodol, edrychodd y bobl ifanc a'r artist ar ddiwydiannaeth Pont-y-pŵl a greodd yr angen am weithwyr arbenigol a ddaeth o nifer o leoedd gwahanol, gan ddod â thraddodiadau ac ieithoedd eraill gyda nhw.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig