Rhywogaethau anfrodorol ymledol

Mae rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid anfrodorol ymledol yn cael eu hystyried i fod yn fygythiad mawr i ecosystemau bregus. Oherwydd symudiad byd-eang pobl a nwyddau wedi cynyddu, maent yn peri problem gynyddol o ran gwarchod bioamrywiaeth, ac maent yn fygythiad i fuddiannau economaidd fel amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd.

Mae rhywogaethau planhigion goresgynnol yn broblem amgylcheddol ddifrifol yn Nhorfaen, yn enwedig canclwm Japan sy’n disodli planhigion naturiol, ac yn gwneud drwg i fioamrywiaeth yn ogystal ag yn gallu achosi difrod strwythurol difrifol i eiddo. Gan mai ychydig o anifeiliaid sy’n bwydo ar blanhigion ymledol, gallant dyfu’n fwy na phlanhigion brodorol ond nid ydynt yn cynhyrchu llawer o fwyd ar gyfer ffawna brodorol.

Ffactorau sy'n Achosi Lledaeniad Planhigion Ymledol

  • Rhywogaethau newydd yn cael eu cyflwyno drwy eu cario  ar esgidiau, ceir a nwyddau masnach
  • Yn cael eu gwerthu fel planhigion addurnol mewn canolfannau garddio a/neu yn cael eu plannu yn fwriadol mewn gerddi
  • Diffyg gelynion naturiol penodol, megis anifeiliaid llysysol a phathogenau
  • Ceir eu gwasgaru gan gyrsiau dŵr
  •  Pridd halogedig yn cael ei symud, a thipio anghyfreithlon. Gall peiriannau symud darnau bach o blanhigyn ymedol a gall fod yn ddigon i halogi meysydd newydd - mae clymog Japan yn gallu adfywio o ddarnau bychain iawn

Dilynwch y cyswllt hwn i gael canllawiau yn ymwneud â'r rhywogaethau canlynol::

Atodlen 14 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd)

Bwriad Adran 14 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yw atal planhigion ac anifeiliaid penodol a allai achosi niwed ecolegol, amgylcheddol neu economaidd-gymdeithasol, rhag cael eu rhyddhau i’r gwyllt.

Mae Adran 9 yn rhestri rhywogaethau anfrodorol sydd wedi eu sefydlu yn y gwyllt yn barod, ond sydd yn parhau i beri bygythiad i gadwraeth bioamrywiaeth a chynefinoedd brodorol, felly dylai datganiadau pellach gael eu rheoleiddio.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio o Adran 9) Trefn Lloegr a Chymru 2010 wedi ychwanegu nifer o rywogaethau planhigion i restr adran 9 a’i gwneud yn drosedd i'w cyflwyno i'r gwyllt. Mae’r rhywogaethau ychwanegol hynny sy’n bodoli o fewn neu yn agos at Dorfaen yn cynnwys y rhywogaethau canlynol::

  • Marddanhadlen felenf
  • Jac y Neidiwr
  • Gwahanol rywogaethau o Greigafalau
  • Rhedyn y Dŵr
  • Montbretia
  • Letys Dŵr
  • Dail-Ceiniog Arnofiol
  • Rhodedendron
  • Chwyn Dŵr cyrliog
Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Ecoleg

Ffôn: 01633 648256

Nôl i’r Brig