Menter TreftadaethTreflun Pont-y-pŵl (MTT)

Beth yw MTT Pont-y-pŵl? 

Menter Treftadaeth Treflun (MTT) yw rhaglen dyfarnu grantiau Cronfa Treftadaeth y Loteri (CTL) ar gyfer trwsio’r amgylchedd adeiledig hanesyddol o fewn trefi a dinasoedd, a’i adfywio. Rhoddir y grantiau i Ardaloedd Cadwraeth sy’n arddangos anghenion cymdeithasol ac economaidd penodol. Tyfodd y cynllun MTT trwy ddyhead CTL i drosglwyddo gwaith gwarchod cynaliadwy mewn ardaloedd trefol hanesyddol, gan godi safonau gwaith trwsio, ac mae hefyd yn cael ei weld fel ffordd o gyflwyno defnydd newydd a bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi colli eu sylfaen economaidd draddodiadol.

Nodau MTT

Prif nod y cynllun yw parhau i wneud defnydd ymarferol o adeiladau sy'n ffurfio'r cymeriad pensaernïol arbennig ardaloedd trefol hanesyddol. Mae’r flaenoriaeth uchaf yn cael ei rhoi i atgyweirio adeiladau hanesyddol ac i ddod ag adeiladau adfeiliedig ac sydd ddim mewn defnydd, yn ôl i ddefnydd. Ceir pwyslais cryf hefyd ar gyfraniad y gymuned a chynaliadwyedd tymor hir y rhaglen. Ym Mhont-y-pŵl bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant, busnesau lleol, yr awdurdod lleol, darparwyr statudol a pherchnogion adeiladau i:

  • Gynyddu cyfleoedd hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth;
  • Cynyddu cyfranogiad cymunedol; a;
  • Gwella dulliau o reoli cadwraeth a chynnal a chadw.
Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gweinyddwr MTT

Ffôn: 01633 648288

Nôl i’r Brig