It's My Shout

It’s My Shout Logo

Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae It’s My Shout Productions Ltd yn arbenigo mewn cynhyrchu ffilmiau byr ar gyfer y teledu a’r sgrin. Bob blwyddyn rydym yn cynhyrchu ffilmiau byr ar gyfer ystod eang o bartneriaid o BBC Cymru Wales, S4C, Cyngor Ffilmiau’r DU a Chyngor Celfyddydau Cymru i enwi ond rhai.

Mae It’s My Shout yn cynnig hyfforddiant ymarferol i bobl ifanc, ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y diwydiant. Ethos pennaf It’s My Shout yw cynnwys pobl ifanc mewn gweithgaredd creadigol a all ysbrydoli a magu hyder, yn ogystal â’u darparu â sgiliau ‘caled’ (ee camera, sain, lleoliad, rhedwyr, cynorthwywyr cynhyrchu, animeiddwyr, cyfansoddi, actio, gwarchod, golygu, gwallt a cholur, gwisgoedd, dylunio setiau, 2ail AD, 3ydd AD) a sgiliau meddal y gellir eu trosglwyddo i bob agwedd ar eu bywydau.

Mae cynllun hyfforddi mwyaf IMS yn cael ei gynnal dros yr haf gyda nifer o gymunedau ledled Cymru. Ar gyfer Cyfres 7 yn 2015 byddwn yn cynhyrchu 9 ffilm fer sydd yn adeiladu ar gynllun hyfforddi haf 2014, y gwnaeth bron i fil o bobl ifanc o bob cwr o Gymru gymryd rhan ynddo. Mae chwech o’r ffilmiau yn cael eu darlledu ar BBC Cymru Wales, ochr yn ochr â dogfen 30 munud ‘y tu ôl i’r llenni’, ac mae tair ffilm iaith Gymraeg yn cael eu darlledu ar S4C. Beth am roi clic ar yr adran “Cymryd Rhan” nawr i gael mwy o fanylion am y cynlluniau hyfforddi sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae Adran Datblygu’r Celfyddydau yn Nhorfaen yn cefnogi cynhyrchiad IMS yn Nhorfaen a bydd y broses recriwtio yn cael ei chynnal yn fuan! Cyswllt: info@itsmyshout.co.uk neu ffoniwch 01656 858187 i gael mwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

It’s My Shout

Ffôn: 01656 858187

E-bost: info@itsmyshout.co.uk

Nôl i’r Brig