Polisi Cyflog

O dan Adrannau 38-43 Deddf Lleoliaeth 2011, mae'n ofynnol i Gyngor Torfaen baratoi datganiad 'Polisi Cyflogau' sy'n esbonio ei bolisïau yn ymwneud â chyflogau ei weithlu, yn enwedig staff uwch a phrif swyddogion o gymharu â'i weithwyr sy'n derbyn cyflog is.

Mae'n rhaid i'r polisi gael ei baratoi bob blwyddyn ariannol gan ddechrau gyda 2012/13, ac mae'r polisi hwn wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor llawn. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i staff ysgolion yr awdurdod lleol. Mae'r polisi wedi'i lunio i geisio hybu undod rhwng atebolrwydd, tryloywder a thegwch yng nghyd-destun pennu cyflogau lleol, a ategir gan Werthoedd Craidd y cyngor o fod yn gefnogol, yn deg ac yn effeithiol.

Mae'r polisi'n galluogi cynghorwyr i wneud mwy o gyfraniad at bennu cyflogau a sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan y rhai hynny sy'n uniongyrchol atebol i'r gymuned. Mae cyhoeddi'r polisi yn sicrhau bod y cymunedau hyn yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i benderfynu a yw taliadau cydnabyddiaeth, yn enwedig ar gyfer staff uwch, yn briodol ac yn gymesur â'r lefelau cyfrifoldeb a bod cyflogau uwch yn cael eu gosod yng nghyd-destun cyflogau'r gweithlu ehangach.

Mae copi o'r Polisi Cyflogau ar gael i'w lawrlwytho yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adnoddau Dynol
Ffôn: 01495 762200
E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig