Gwerthuso Swyddi
Beth yw Gwerthuso Swyddi?
Dull systematig o benderfynu ar werth neu faint cymharol swyddi yw gwerthuso swyddi. Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, rydym yn defnyddio Cynllun Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf (GLPC). Mae'r cynllun hwn, sydd wedi bod ar waith ers dros 40 mlynedd ac sy'n ymdrin â mwy na 100,000 o weithwyr, yn cael ei ddefnyddio'n eang ledled Cymru. Fe'i hysgrifennwyd ar y cyd â'r Comisiwn Cyfle Cyfartal ac fe'i canmolwyd am ei egwyddorion cydraddoldeb a thegwch.
Sut mae Gwerthuso Swyddi'n gweithio?
Mae cynnwys y swydd yn cael ei archwilio yn erbyn nifer o feini prawf neu ffactorau.
Bydd cynnwys y swydd yn cael ei werthuso yn erbyn 7 ffactor. Ceir lefel o fewn pob un o'r ffactorau hyn y dyfernir sgôr bwyntiau ar ei chyfer. Dangosir canran y pwyntiau sydd ar gael ar gyfer pob ffactor isod:
Sut mae Gwerthuso Swyddi'n gweithio?
Ffactor | % Pwyntiau |
Goruchwylio a Rheoli Pobl |
10.5
|
Creadigrwydd ac Arloesedd |
10.5
|
Cysylltiadau a Pherthnasoedd |
15.4
|
Penderfyniadau |
Disgresiwn |
10.5
|
Canlyniadau |
6.3
|
Adnoddau |
5.3
|
Yr Amgylchedd Gweithio |
Gofynion y Gwaith |
4.2
|
Gofynion Corfforol |
2.5
|
Amodau Gweithio |
2.5
|
Cyd-destun y Gwaith |
3.3
|
Gwybodaeth a Sgiliau |
28.9
|
Mae'r canlynol yn esbonio neu'n diffinio'r ffactorau uchod ac yn esbonio'r hyn yr ystyrir ei fod yn pennu'r lefel y mae'r swydd yn gweithredu arni:
Goruchwylio a Rheoli Pobl
Mae'r ffactor hwn yn mesur graddau'r cyfrifoldeb am oruchwylio/ rheoli gweithwyr ac eraill y gellir ystyried bod y swydd yn uniongyrchol atebol am eu gwaith ac, yn arbennig, agweddau ansoddol goruchwylio/rheoli staff.
Wrth asesu'r ffactor hwn, rhoddir ystyriaeth ym mhob achos i ba un a yw atebolrwydd llawn yn bodoli, yr anawsterau cynhenid o ran y gwaith sy'n cael ei oruchwylio/rheoli a lefel yr anhawster o ran goruchwylio/rheoli, yn enwedig pan fo goruchwyliaeth/rheolaeth yn fwy anodd oherwydd gwasgariad ffisegol eang neu symudedd staff.
Mae'r lefel hon yn ystyried:-
- Faint o weithwyr sy'n cael eu goruchwylio / rheoli?
- Nifer y gweithwyr gwirfoddol neu staff dan gontract y rhoddir cyfarwyddiadau iddynt ac y mae angen eu monitro'n rheolaidd
- A yw'r staff yn cael eu rheoli / goruchwylio mewn gwahanol leoliadau gwaith?
- A yw'r swydd yn rheoli gweithwyr dros dro? Os felly, faint ac am ba hyd?
- Pa wahanol feysydd gwaith y mae'r gweithwyr sy'n cael eu rheoli yn ymgymryd â hwy?
Creadigrwydd ac arloesedd
Mae'r ffactor hwn yn ystyried i ba raddau y mae'r gwaith yn mynnu ymatebion arloesol a chreadigol i faterion ac i ddatrys problemau.
Mae'n asesu manylion, goblygiadau, amrywiaeth a chymhlethdod problemau. Mae hefyd yn asesu adnabod a dehongli tystiolaeth, ystyried dewisiadau eraill a datblygu datrysiadau.
Mae'r holl waith yn y sector cyhoeddus, i raddau mwy neu lai, yn cael ei wneud drwy roi ystyriaeth i amcanion polisi cyffredinol y sefydliad dan sylw. Diben y ffactor hwn yw mesur graddau'r creadigrwydd sydd ei angen i sicrhau bod y swyddogaeth neu'r dasg unigol ac ati yn cael ei chwblhau'n foddhaol.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Sut mae'r deiliad swydd yn datrys problemau?
- Sut mae'r swydd yn mynnu bod y deiliad swydd yn adnabod a dehongli tystiolaeth, ystyried dewisiadau eraill a datblygu datrysiadau?
- Sut mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei bennu neu ei gynorthwyo gan ganllawiau, systemau a gweithdrefnau?
Cysylltiadau a pherthnasoedd
Mae'r ffactor hwn yn mesur graddau'r cysylltiad personol ac yn gwerthuso natur y berthynas â phobl eraill y mae'n ofynnol i'r deiliad swydd ei chynnal wrth ymgymryd â'i swydd.
Gallai perthnasoedd gynnwys ymdrin â lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol cleientiaid.
Mae'n rhaid i gysylltiadau fod yn rhan sylweddol o ddyletswyddau'r swydd a rhaid eu bod yn digwydd yn aml.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Pa gysylltiadau sydd gan y deiliad swydd â chleientiaid / cwsmeriaid / cydweithwyr / aelodau etholedig?
- Pa faterion yr ymdrinnir â hwy?
- A yw'r materion yn ddadleuol neu'n gymhleth?
- Pa sgiliau sydd eu hangen, e.e. darbwyllo, sensitifrwydd, gofal, tosturi?
Penderfyniadau - disgresiwn a chanlyniadau
Mae'r ffactor hwn yn ystyried y gofyniad i wneud penderfyniadau neu argymhellion fel nodwedd reolaidd o'r gwaith a chanlyniadau'r penderfyniadau neu'r argymhellion hynny.
Bydd y ffactor disgresiwn yn asesu'r angen i wneud dewisiadau, yr atebolrwydd am y canlyniad, y cyfyngiadau ar benderfyniadau a pha ganllawiau, cyngor, cynseiliau, rheoliadau a gweithdrefnau sydd ar gael a fydd yn pennu graddau'r disgresiwn.
Bydd y ffactor canlyniadau yn asesu natur canlyniadau'r penderfyniadau yn nhermau'r effaith ar bobl, eiddo, cyllid, cyllidebau, polisïau, amcanion, targedau, ac ati, y tu mewn a'r tu allan i'r adran neu'r awdurdod.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Pa gyfarwyddiadau, canllawiau, rheolau neu weithdrefnau sy'n bodoli fel rhan o'r swydd?
- Pa benderfyniadau a wneir?
- A yw'r deiliad swydd yn rhoi cyngor neu fewnbwn sy'n cyfrannu at benderfyniadau a wneir gan bobl eraill?
- Pa effaith y mae'r penderfyniadau'n ei chael yn y tymor byr a'r tymor hir?
- A yw'r penderfyniadau a wneir yn cael effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth, y gwasanaeth a ddarperir, y cyngor yn gyffredinol, y cyhoedd neu sefydliadau eraill?
Adnoddau
Mae'r ffactor hwn yn asesu atebolrwydd personol a chanfyddadwy am adnoddau ffisegol ac ariannol, gan gynnwys adnoddau cleientiaid. Bydd yr atebolrwydd hwn yn cynnwys trin, diogelwch, diogelu, defnydd priodol, a/neu atgyweirio a chynnal a chadw adnoddau.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- A yw'r deiliad swydd yn trin arian parod, sieciau? Beth yw eu gwerth?
- A yw'r swydd yn gyfrifol am gyfarpar, offer, peiriannau? Beth yw eu gwerth?
- A yw'r swydd yn gyfrifol am adeiladau, eiddo, lleoliadau allanol? Beth yw eich cyfrifoldeb?
- A yw'r swydd yn gyfrifol am gyflenwadau neu stoc? Beth yw eich cyfrifoldeb?
- A yw'r cyfrifoldeb yn barhaol neu ar sail rota?
Yr amgylchedd gweithio
Mae'r ffactor hwn yn ystyried pedair elfen sy'n nodweddu'r amgylchedd y mae'r gwaith yn cael ei wneud ynddo. Caiff yr elfennau eu hasesu ar wahân:-
Gofynion y Gwaith - Mae hyn yn ystyried sut mae terfynau amser, amlder a sydynrwydd gofynion am newidiadau rhwng gwaith, problemau cyfathrebu, a datrys anghenion a blaenoriaethau o ran adnoddau sy'n gwrthdaro yn effeithio ar waith y deiliad swydd.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Pa derfynau amser y mae'n rhaid eu bodloni?
- A oes blaenoriaethau sy'n gwrthdaro?
- Pa mor aml y mae'n rhaid i'r deiliad swydd weithio dan bwysau ac o fewn terfynau amser?
Gofynion Corfforol - Mae'r elfen hon yn ystyried faint o ymdrech gorfforol sydd ei hangen ac am ba hyd. Mae hefyd yn ymdrin â deheurwydd gwaith llaw pan fo cyflymder a chywirdeb neu ddefnydd cyson uchel o gyfarpar TG yn ofyniad dilys o'r swydd.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- A oes rhaid i'r deiliad swydd weithio mewn ystum lletchwith/cyfyngedig?
- A fyddai'n rhaid i'r deiliad swydd blygu, cyrcydu, ymestyn, codi, cario, neu gerdded?
- Faint o amser a dreulir yn gwneud y gweithgareddau hyn?
Amodau Gweithio - Mae'r elfen hon yn ystyried i ba raddau y mae'r deiliad swydd yn wynebu amodau gweithio annymunol neu annifyr sy'n bresennol yn yr amgylchedd ffisegol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, baw, llwch, goleuadau, tywydd garw, sŵn, awyriad, dirgryniad ac amodau gweithio annymunol neu annifyr sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau gofalu.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Pa mor aml y byddai'n rhaid i'r deiliad swydd weithio mewn amodau annifyr?
Cyd-destun y Gwaith - Mae'r elfen hon yn ystyried y risg bosibl i iechyd a lles cyffredinol o ganlyniad i salwch ac anaf, emosiynol yn ogystal â chorfforol, sy'n rhan gynhenid o'r swydd, gan gynnwys camdriniaeth, ymosodedd a risg o anaf gan y cyhoedd.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- A oes rhaid i'r deiliad swydd gymryd unrhyw gamau arbennig i leihau'r risg neu reoli'r amgylchedd cyn gweithio yno neu tra ei fod yn gweithio yno?
- A oes rhaid i'r deiliad swydd ddefnyddio unrhyw offer diogelwch neu ddillad arbennig, neu sicrhau bod pobl eraill yn eu defnyddio?
- A oes unrhyw ofynion emosiynol ar y deiliad swydd yn deillio o amgylchiadau neu ymddygiad pobl eraill?
Gwybodaeth a Sgiliau
Mae'r ffactor hwn yn mesur y wybodaeth a'r sgiliau, yn eu hystyr ehangaf, o ran y gwaith neu'r ddisgyblaeth sy'n ofynnol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau llawn y swydd yn gymwys.
Gallai'r rhain gynnwys disgyblaethau technegol, proffesiynol, gweithredol neu arbenigol yn ogystal â sgiliau gofalu, rhyngbersonol, llythrennedd ac ieithyddol, diplomyddiaeth, sensitifrwydd, tact, deheurwydd, rhifedd, gwybodaeth am offer a pheiriannau, technegau gweithredol, cysyniadau, damcaniaethau, gweithdrefnau, a chyfathrebu a rheoli.
Mae'r lefel hon yn ystyried:
- Pa hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y swydd?
- Pa feysydd gwaith yr ymdrinnir â hwy?
- Pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y swydd?
- A oes angen unrhyw brofiad ymarferol ar y deiliad swydd i wneud y swydd?
Mae copi llawn o'r cynllun sy'n dangos y lefelau a'r sgorau pwyntiau ar gael yn y ddogfen Cynllun Gwerthuso Swyddi GLPC.
Sut ydw i'n dod o hyd i fwy o wybodaeth?
Os hoffech gael gwybodaeth bellach am y broses gwerthuso swyddi os gwelwch yn dda yn cysylltu â'r tîm gwerthuso swyddi fel a ganlyn: -
Nicola Hitchings
Dadansoddwr Swyddi
Ffôn: 01495 766588
Tina Hulme
Rheolwr Gwasanaethau Gweithwyr
Ffôn: 01495 766438
Diwygiwyd Diwethaf: 31/03/2023
Nôl i’r Brig