CONTRACT: CYFNOD PENODOL HYD AT 31AIN MAWRTH 2023, OND GELLID EI YMESTYN O BOSIB
Rydym eisiau recriwtio Swyddog Ymgysylltu Gofal Plant brwdfrydig, gyda chymhelliad i ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i hybu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ledled Torfaen.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei annog i ymgysylltu gyda digwyddiadau cymunedol a chysylltu gyda sefydliadau partner sy’n allweddol i hyrwyddo’r cynnig i deuluoedd ledled y fwrdeistref, wrth gyflenwi gwasanaeth allgymorth o safon uchel. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu i ymgyrch farchnata’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, y wefan a gweithgareddau allgymorth.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad allgymorth a brofwyd, gwaith datblygu a gwybodaeth am fentrau Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio 30 awr yr wythnos. Bydd dyletswyddau yn golygu gweithio ar benwythnosau a gall gynnwys gyda’r nos o bryd i’w gilydd, pan fo angen. Bydd deiliad y swydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Integredig Plant Cwmbrân, Cwmbrân.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Hayley Morgan 07980 732664 / Hannah Bedford 07773 208295.
Mae’r swydd hon yn destun Cais Datgeliad Manylach i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.