Grant Cymorth Tai
Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariennir gan y llywodraeth. Mae’n defnyddio dulliau ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd, sefydlogi sefyllfa unigolyn o ran ei gartref, a’i annog i fyw’n annibynnol.
Mae’r Grant Cymorth Tai yn Nhorfaen yn ariannu, yn monitro ac yn datblygu tai â chymorth a gwasanaethau cymorth tai. Mae’r cymorth ar gael yn rhad ac am ddim i drigolion Torfaen a gall gefnogi unigolion am hyd at 2 flynedd.
Beth yw Cymorth Fel y Bo’r Angen?
Mae Cymorth Fel y Bo’r Angen yn gymorth pwrpasol un i un a ddarperir gan y gwasanaethau cymorth lleol. Mae’r cymorth yn mynd i’r afael â phroblemau unigolion o ran eu cartref ac unrhyw gymorth arall sydd ei angen a allai effeithio ar eu sefyllfa o ran eu cartref.
Enghraifft o gymorth:
- sefydlu/cynnal tenantiaeth
- rheoli rhent/talu biliau
- iechyd meddwl
- help gyda phroblemau arian a hawlio budd-daliadau
- cymorth arbenigol i bobl ifanc 16-24 oed
- trais domestig
- salwch/anabledd
- dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
- llenwi ffurflenni
- cymorth emosiynol
- help i gael mynediad at addysg, hyfforddiant neu waith
Beth yw Llety â Chymorth?
Llety â chymorth yw llety lle mae’r tenant yn cael cymorth sy’n gysylltiedig â’i lety, felly’n ei gefnogi i ennill y sgiliau i fyw'n annibynnol a chynnal ei denantiaeth ei hun.
Sut i gael cymorth
Gateway
- Os ydych chi’n chwilio am gymorth, gallwch gysylltu â Thîm Gateway fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth fwyaf addas i’ch amgylchiadau, drwy lenwi ffurflen atgyfeirio gyda chi.
- Gellir cysylltu â Thîm Gateway ar 01495 766949 neu drwy e-bost gateway@torfaen.gov.uk.
Cymorth Tai – Galw Heibio
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ar frys, gall y cymorthfeydd galw heibio canlynol eich helpu. Nid oes angen gwneud apwyntiad, gallwch alw heibio ar y dydd.
Sesiynau Galw Heibio am Gymorth Tai
Darparwr | Lleoliad | Diwrnod | Amser | Rhif Cyswllt |
Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
|
Dydd Llun
|
9:30am - 1:00pm
|
01495 760390
|
Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
|
Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau
|
9:30am - 4:00pm
|
01495 760390
|
Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Co-Star Food Bank Cwmbran
|
Dydd Iau
|
11:00am – 1:00pm
|
01495 760390
|
Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
|
Dydd Gwener
|
9:30am - 3:30pm
|
01495 760390
|
The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL
|
Dydd Mawrth - Mercher
|
9:00am -5:00pm
|
01495 366895
|
The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Canolfan Byd Gwaith Cwmbrân, 42 Sgwâr Gwent, Cwmbrân, NP44 1PL
|
Dydd Llun a Dydd Iau
|
9:00am - 4:00pm
|
01495 366895
|
The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Canolfan Byd Gwaith Pont-y-pŵl, Heol-y-Parc, NP4 6XQ
|
Dydd Mawrth
|
9:00am-12:00pm
|
01495 366895
|
The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai
|
Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL
|
Dydd Gwener
|
9:00am - 4:30pm
|
01495 366895
|
The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai/ POBL
|
Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL
|
Dydd Sadwrn
|
9:30am - 1:00pm
|
01495 366895
|
Diwygiwyd Diwethaf: 04/04/2023
Nôl i’r Brig