Tai Sector Preifat
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am orfodi safonau tai sector preifat o fewn Torfaen.
Mae cyfrifoldebau'n cynnwys:
- datrys problemau mewn tai preifat ar rent a chynnal asesiadau dan System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i sicrhau bod unrhyw eiddo preswyl yn darparu amgylchedd diogel ac iach ar gyfer unrhyw ddeiliad neu ymwelydd posib
- rhoi cyngor i landlordiaid a thenantiaid sector preifat
- ymdrin â niwsans cyhoeddus fel eiddo brwnt, eiddo niweidiol, sbwriel wedi cronni mewn gerddi, niwsans o ran arogleuon a niwsans gan anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn eiddo
- ymdrin ag eiddo gwag
- ymdrin â draeniau a charthffosydd preifat diffygiol
- ymdrin ag aflonyddu gan landlordiaid neu droi allan anghyfreithlon
Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?
Mae'r gwasanaeth ar gael i holl denantiaid a pherchen-feddianwyr sector preifat. Am wybodaeth bellach neu am gyngor, cysylltwch â'r Tîm Iechyd y Cyhoedd neu lawr lwythwch y dogfennau atodedig:
Gwybodaeth i denantiaid
Gwybodaeth i landlordiaid
Cofrestru a Trwyddedu
Nid yw'n ofynnol i landlordiaid yn ôl y gyfraith i gael eu cofrestru neu eu trwyddedu.
Mae cyfraith newydd wedi cael ei gyflwyno yng Nghymru sy'n berthnasol i bob landlord ac asiant eiddo preswyl preifat. Os ydych yn berchen, rhentu allan, rheoli a / neu yn byw mewn eiddo ar rent, yna bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch chi.
To find out more view the Rent Smart Wales - are you complying? page.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2023
Nôl i’r Brig