Aflonyddu a Throi Allan Anghyfreithlon
Mae Deddf Gwarchod rhag Troi Allan 1977 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i droi tenant allan heb ddilyn y drefn gyfreithiol gywir. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud hi'n drosedd i landlord, ei asiant neu unrhyw berson aflonyddu ar denant gyda'r bwriad o wneud iddynt adael eu cartref.
Beth yw Aflonyddu?
Mae'n drosedd i landlordiaid neu eu hasiantau:
- Ymddwyn mewn modd sy'n debygol o amharu ar heddwch a chysur eu tenantiaid
- Dynnu gwasanaethau angenrheidiol oddi wrth bobl sy'n byw yn yr eiddo (mae gwasanaethau angenrheidiol yn cynnwys dŵr, nwy a thrydan, neu esgynydd mewn bloc o fflatiau)
- Ymddwyn mewn modd y maent yn gwybod neu mae ganddynt achos rhesymol i gredu bydd yn debygol o achosi i'r tenantiaid adael eu cartref neu beidio ag arfer eu hawliau
Oni bai eu bod yn gallu dangos bod ganddynt reswm da dros wneud y pethau hyn.
Cysylltwch â'r Tîm Iechyd Cyhoeddus am gyngor.
Beth yw Troi Allan Anghyfreithlon?
Mae troi allan anghyfreithlon yn digwydd pan fydd meddiannydd preswyl yn cael ei amddifadu o'i holl eiddo neu ran o'r eiddo.
- Mae bron bob amser yn drosedd i droi meddiannydd allan heb fynd i'r llys yn gyntaf
- Mae'n drosedd ceisio troi tenant allan yn anghyfreithlon
- Nid yw o wahaniaeth a yw'r meddiannydd preswyl yn denant neu yn ddaliwr trwydded
- Nid yw o wahaniaeth a yw'r tenant yn torri ei gytundeb e.e. mae rhent yn ddyledus ganddo neu nid yw'n caniatáu i'r landlord atgyweirio, neu mae'r tymor penodedig wedi dod i ben
- Hyd yn oed os oes gan y landlord orchymyn ildio meddiant rhaid iddo gael ei orfodi gyda gwarant beili
Mae'r canlynol yn enghreifftiau cyffredin o droi allan anghyfreithlon:
- Cael eich cloi allan o ystafell
- Cael eich amddifadu o ystafell sydd fel arfer yn cael ei rhannu gyda phobl eraill e.e. cegin neu ystafell fyw
- Cael rhan o'r cartref wedi ei dynnu oddi wrthych o ganlyniad i waith adeiladu
- Cael eich troi allan o'ch cartref eich hun
AC nid oes gorchymyn llys yn rhoi caniatâd i'r landlord wneud dim un o'r rhain. Mae hawliau a chamau unioni tenant yn cynnwys mynnu bod yr eiddo mewn cyflwr da, ceisio cyngor am eu hawliau tai, neu fynd i dribiwnlys rhent.
Pa gamau all y Tîm Iechyd Cyhoeddus eu cymryd?
Gall swyddog iechyd yr amgylchedd geisio datrys yr anghydfod rhwng y landlord a'r tenant os yw hynny'n ymddangos yn briodol. Os yw'r swyddog iechyd yr amgylchedd yn credu bod digon o dystiolaeth, fe all y Cyngor ystyried dwyn erlyniad troseddol yn erbyn y landlord.
Bydd yr erlyniad yn cael ei gymryd gan y Cyngor ac ni fydd yn costio dim i'r tenant, er y bydd rhaid iddynt fynychu'r Llys i roi tystiolaeth. Os fydd yr erlyniad yn llwyddiannus bydd y landlord yn derbyn dirwy neu gyfnod o garchar ac yna bydd ganddo gofnod troseddol.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2021
Nôl i’r Brig