Tai Amlfeddiannaeth

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

Mae Tŷ Amlfeddiannaeth yn eiddo sy’n cael ei rentu gan o leiaf 3 unigolyn sydd heb fod mewn 1 aelwyd ac sy’n rhannu amwynderau sylfaenol, fel yr ystafell ymolchi a’r gegin.

Bydd eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth, os yw’r canlynol yn wir:

  • Mae 3 neu fwy o bobl o fwy nag 1 aelwyd yn ei rentu
  • Mae tenantiaid yn rhannu toiled, ystafell ymolchi neu gyfleusterau cegin

Deiliaid contract (tenantiaid) sy’n cael eu gweld fel aelwyd

  • Parau sy’n cyd-fyw
  • Teuluoedd sy’n berthnasau gwaed neu deuluoedd maeth
  • Gofalwyr a staff domestig

Fflatiau

Ni fyddai angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar fflatiau sydd wedi eu hadeiladu at y diben; ond, byddai adeiladau sydd wedi cael eu trawsnewid yn gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol, yn cael eu diffinio fel Tŷ Amlfeddiannaeth petaent yn bodloni’r holl feini prawf canlynol:

  • Nid oedd y gwaith trawsnewid yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991
  • Mae dros draean o’r fflatiau’n cael eu gosod ar denantiaethau byrdymor/llai na dau draean o’r fflatiau yn eiddo i berchen-feddianwyr
  • Mae mwy na 2 unigolyn yn byw yn yr adeilad

I wirio a oes angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar eich eiddo, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Tai a Gwarchod yr Amgylchedd - public.health@torfaen.gov.uk.

Pam mae angen trwydded ar rai Tai Amlfeddiannaeth?

Yn aml, mae safonau ffisegol a safonau rheoli Tai Amlfeddiannaeth mwy o faint, er enghraifft fflatiau un ystafell a thai a rennir, yn is nag eiddo arall sy’n cael ei rentu’n breifat.  Gan mai Tai Amlfeddiannaeth yw’r unig opsiwn i lawer o bobl, mae’r Llywodraeth yn cydnabod ei fod yn hanfodol eu bod yn cael eu rheoleiddio’n iawn.

Bwriad trwyddedu yw sicrhau bod:

  • Landlordiaid Tai Amlfeddiannaeth yn bersonau cymwys a phriodol, neu’n cyflogi rheolwyr sy’n bersonau cymwys a phriodol
  • Pob Tŷ Amlfeddiannaeth yn addas i nifer y bobl a ganiateir i fyw yno o dan y drwydded
  • Safon rheolaeth y Tai Amlfeddiannaeth yn ddigonol
  • Tai Amlfeddiannaeth risg uchel yn gallu cael eu hadnabod a’u targedu er mwyn eu gwella

Pan fo landlordiaid yn gwrthod bodloni’r meini prawf hyn, gall y cyngor ymyrryd a rheoli’r eiddo er mwyn sicrhau:

  • Bod modd amddiffyn tenantiaid sy’n agored i niwed
  • Nad oes gormod o bobl yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth
  • Bod cynghorau yn gallu adnabod landlordiaid a’u cefnogi, yn enwedig gydag adfywio a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Oes rhaid i bob Tŷ Amlfeddiannaeth gael trwydded?

Na.  O dan Ddeddf Tai 2004 mae yna dri math o drwyddedu:

Mandadol (sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith)

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ar gyfer eiddo sydd:

  • Â thri llawr neu fwy
  • Â phum unigolyn neu fwy mewn mwy nag un aelwyd
  • Yn rhannu amwynderau fel ystafelloedd ymolchi, toiledau a chyfleusterau coginio

Trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth

  • Pŵer dewisol y gall cynghorau benderfynu ei ddefnyddio ar gyfer math penodol o Dŷ Amlfeddiannaeth, er enghraifft er mwyn ei gynnwys mewn cynllun cofrestru sy’n bodoli.

Trwyddedu dewisol ar gyfer llety preswyl o fath arall

  • Gallai eiddo nad yw’n ddarostyngedig i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ddod o dan gynllun trwyddedu dewisol.  Gyda chynllun o’r fath, mae’r cyngor yn gallu datgan bod rhai ardaloedd penodol, er enghraifft, lle mae yna alw isel am dai a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn addas ar gyfer trwyddedu dewisol.  Byddai’r trwyddedu hwn yn cynnwys pob math o dai i’w rhentu’n breifat, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth.

Sut y mae trwyddedu’n gweithio?

Rhaid i unrhyw un sy’n berchen ar Dŷ Amlfeddiannaeth y mae’n rhaid ei drwyddedu, neu’n ei reoli, gyflwyno cais i’r cyngor am drwydded. Rhaid i’r cyngor roi trwydded os yw’n fodlon bod yr amodau canlynol yn wir:

  • Mae’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn rhesymol addas i’r nifer o bobl a ganiateir o dan y drwydded fyw ynddo
  • Mae’r sawl sy’n ymgeisio i fod yn ddeiliad trwydded yn berson cymwys a phriodol
  • Y sawl sy’n ymgeisio i fod yn ddeiliad trwydded yw’r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • Os oes rheolwr arfaethedig, yna mae’n berson cymwys a phriodol
  • Mae’r trefniadau rheoli a gynigir yn foddhaol
  • Mae’r sawl sy’n gysylltiedig â rheoli’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn gymwys i wneud hynny
  • Mae’r strwythurau ariannol ar gyfer rheoli yn addas

Caniatâd Cynllunio

Os nad oes gan yr eiddo ganiatâd cynllunio i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth, yna mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i geisio am ganiatâd cynllunio os yw unrhyw un o’r pwyntiau canlynol yn wir:

  • Os yw defnydd yr eiddo yn newid o un aelwyd i Dŷ Amlfeddiannaeth ac fe fydd rhwng 3 a 6 unigolyn yn byw ynddo (hyd yn oed os ydyw wedi bod yn Dŷ Amlfeddiannaeth yn y gorffennol)
  • Os bydd 7 neu fwy o bobl yn byw yn yr eiddo

Mae caniatâd cynllunio yn swyddogaeth ar wahân i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Nid yw cael Caniatâd Cynllunio i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth yn gwarantu y rhoddir trwydded Tai Amlfeddiannaeth ac nid yw rhoi trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn rhoi sicrwydd y bydd Caniatâd Cynllunio yn cael ei roi.

Am ragor o wybodaeth neu gyngor mewn perthynas â’r gofyniad hwn, cysylltwch â Gorfodi Cynllunio - planning@torfaen.gov.uk.

Y broses apelio

Os gwrthodir rhoi trwydded i unrhyw ymgeisydd neu os yw’n dymuno apelio yn erbyn amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, gall apelio gerbron Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru; fodd bynnag, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf.

Dirwyon a chosbau

Gallech gael dirwy o hyd at £20,000 am rentu Tŷ Amlfeddiannaeth allan heb drwydded.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647295

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig