Eiddo Gwag
Ar hyn o bryd mae Cyngor Torfaen yn ymchwilio oddeutu 400 o eiddo gwag o fewn y Fwrdeistref. Mae eiddo gwag yn arwain at bryderon cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cynnwys:
- Creu hyllbethau sy'n darged i niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gostwng gwerth eiddo cyfagos
- Cyfrannu at brinder tai yn y gymdogaeth
- Cynyddu pwysau am ddatblygu tai ar safleoedd maes glas i gwrdd â galw am dai
- Gosod baich ar yr awdurdod lleol o ran colli refeniw o dreth y cyngor a'r amser a dreulir a'r adnoddau a ddefnyddir gan Iechyd y Cyhoedd, Rheoli Adeiladau, Yr Awdurdod Tân a Gwasanaethau'r Heddlu
Mae perchnogion eiddo gwag hefyd yn colli allan ar yr incwm posib sy'n cael ei gynhyrchu trwy osod neu werthu eu heiddo.
Empty Hopes
Mae menter Empty Hopes wedi cael ei lansio gyda'r nod o leihau faint o eiddo gwag sydd yn y Fwrdeistref trwy weithio gyda pherchnogion i geisio defnyddio eu heiddo unwaith eto.
Gall Cyngor Torfaen roi cymorth gydag ailwampio, adnewyddu, gwerthu neu osod eiddo gwag. Mae'r pecyn gwybodaeth hwn wedi ei gynllunio i roi arweiniad i'r perchennog ar sut i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto.
Gorfodi
Ble nad yw perchnogion eiddo gwag yn ufudd ac mae trafodaethau wedi methu, bydd Cyngor Torfaen yn cymryd y camau gorfodi priodol i sicrhau bod yr eiddo gwag yn dod yn ôl i gyflwr y gellir byw ynddo ac yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Gall camau gorfodi gynnwys gorchmynion rheoli eiddo, gwerthu gorfodol, gorchmynion prynu gorfodol neu gaffael gwirfoddol.
Rydym yn annog perchnogion i edrych ar y dolenni cymorth am gyngor ac arweiniad ar sut i gael defnydd o'u heiddo gwag unwaith eto.
Am mwy o gwybodaeth am eiddo gwag yn nhorfaen darllenwch ein llyfryn gwybodaeth 'empty hopes' neu ymweld a wefan Tai Torfaen
Benthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid
Ar hyn o bryd mae Cyngor Torfaen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn cynnig benthyciadau di-log i gynorthwyo perchnogion eiddo gwag i ailddefnyddio'u heiddo.
Mae'r Benthyciad Eiddo Gwag wedi'i ddatblygu i gynnig benthyciadau di-log i adnewyddu a / neu drosi eiddo gwag fel eu bod yn addas i'w hadfeddiannu.
Gall unigolion a chwmnïau wneud cais am fenthyciad, os ydyn nhw eisoes yn berchen ar eiddo gwag neu'n ystyried prynu Eiddo Gwag yn Nhorfaen. Darperir benthyciadau ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis neu fwy, a hynny'n unig (ond nid oes rhaid bod yr ymgeisydd wedi perchen arno am y cyfnod hwnnw).
Telir arian ymlaen llaw i'r perchennog a bydd angen ei ad-dalu o fewn; 2 flynedd - os bydd yr eiddo yn cael ei werthu (rhaid ad-dalu'r benthyciad yn llawn unwaith y bydd yr eiddo wedi'i werthu) neu 5 mlynedd (os bydd yr eiddo'n cael ei rhentu).
Gellir ad-dalu pob benthyciad yn gynharach os yw'r ymgeisydd yn dymuno gwneud hynny.
Nid oes unrhyw ad-daliadau misol, ac ad-delir y swm llawn ar ddiwedd y cyfnod penodedig.
Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 yr eiddo neu uned, hyd at gyfanswm o £250,000 yr ymgeisydd.
Sylwch na all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais presennol, fod yn fwy na 80% o werth cyfredol yr eiddo. Rhaid gwarantu'r benthyciad a gymeradwywyd trwy arwystl cyntaf neu ail arwystl yn erbyn yr eiddo. Os oes morgais yn bodoli ar yr eiddo mae angen i'r benthycwyr gydsynio i ddiogelu ein harwystl.
I gael mwy o wybodaeth am Fenthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid yn Nhorfaen ewch i wefan Tai Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 14/01/2020
Nôl i’r Brig