Effeithlonrwydd Ynni

Gwella effeithlonrwydd eich cartref

Gall gwneud newidiadau bach syml yn eich bywyd bob dydd arbed arian i chi bob mis, a helpu’r amgylchedd. Mae defnyddio ynni o danwyddau ffosil (olew, nwy, a glo) yn y cartref yn rhyddhau carbon deuocsid i’r amgylchedd, sef y nwy sydd fwyaf cyfrifol am newid yn yr hinsawdd. Daw newid yn yr hinsawdd â thywydd mwy eithafol i’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys tywydd gwlypach a mwy stormus, a bydd llifogydd yn fwy cyffredin. Ni fydd tanwyddau ffosil yn parhau am byth, a bydd y prisiau’n codi wrth i’r cyflenwadau ddiflannu. Mewn cyferbyniad â hynny, mae ynni adnewyddadwy - megis ynni’r gwynt, dŵr, haul a daearwresol yn ffynonellau ynni glân nad ydynt yn llygru, ac ni fyddant byth yn mynd yn brin.

Mae gosodiadau adnewyddadwy bach megis paneli solar, tyrbinau gwynt a phympiau gwres yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn rhad ac am ddim ar gyfer eich cartref. Â’r bargeinion a’r grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd (yn rhad ac am ddim mewn rhai achosion) mae’n werth ystyried gosod y rhain yn eich cartref.

Gallwch ddysgu mwy am effeithlonrwydd ynni ac awgrymiadau ar sut i arbed ynni ar wefan Cartrefi Torfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Arbed Ynni, ewch i ran Ynni – Cyngor ac Asesu Effeithlonrwydd o’r wefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strategaeth Dai

Ffôn: 01495 742629

Nôl i’r Brig