Benthyciadau i Wella Cartrefi
Mae Benthyciad Gwella Cartref yn fenthyciad gwarantedig di-log wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu perchnogion eiddo cymwys i wella a thrwsio eu heiddo i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel, yn gynnes ac yn sicr.
Cynigir holl Fenthyciadau Gwella Cartref ar ddisgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac mae’n dibynnu ar argaeledd arian.
I gael mwy o fanylion, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tai ar 01495 762200.
Benthyciad Perchen-Feddiannwyr
Mae Benthyciad Perchen-Feddiannwyr yn fenthyciad gwarantedig di-log a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu perchnogion cymwys sy'n berchen ar eiddo i wneud gwelliannau ac atgyweiriadau i'w heiddo i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel a chynnes. Mae'r Benthyciad Perchen-Feddiannwyr ar gael i berchnogion tai a landlordiaid yn ardal Torfaen.
Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 yr eiddo neu'r uned. Telir arian ymlaen llaw i'r perchennog neu'r landlord a bydd angen ei ad-dalu o fewn:
- 5 mlynedd os ydych yn landlord neu
- 10 mlynedd os ydych yn berchen-feddiannydd.
Bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal a bydd yn penderfynu pa mor hir y bydd yn rhaid i ymgeisydd ad-dalu'r benthyciad. Os gwerthir yr eiddo o fewn tymor y benthyciad, rhaid ad-dalu'r benthyciad ar unwaith. Gellir ad-dalu pob benthyciad yn gynt os yw'r ymgeisydd yn dymuno gwneud hynny.
Sylwch na all unrhyw fenthyciad a gynigir (gan ystyried unrhyw forgais sy'n bodoli) fod yn fwy na 80% o werth cyfredol yr eiddo. Rhaid sicrhau'r benthyciad trwy warantu arwystl cyntaf neu ail yn erbyn yr eiddo. Os oes morgais yn bodoli ar yr eiddo mae angen i'r benthycwyr ganiatáu i warantu ein harwystl.
Gall eich cartref gael ei adfeddiannu os na fyddwch yn parhau â’ch ad-daliadau.
Cynigir pob Benthyciad Perchen-Feddiannwyr yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac maent yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
I gael mwy o wybodaeth am Fenthyciad Perchen-Feddiannwyr yn Nhorfaen ewch i wefan Cartrefi Torfaen.
Benthyciadau Gwella Cartrefi Pont-y-pŵl
Mae Benthyciad Gwella Cartrefi Pont-y-pŵl yn fenthyciad gwarantedig di-log a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu perchnogion cymwys sy'n berchen ar eiddo i wneud gwelliannau ac atgyweiriadau i'w heiddo i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel a chynnes. The Mae Benthyciad Gwella Cartrefi Pont-y-pŵl ar gael i berchnogion tai a landlordiaid yn ardal Pont-y-pŵl.
Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 yr uned llety, hyd at uchafswm o £150,000 yr ymgeisydd. Telir arian ymlaen llaw i'r perchennog neu'r landlord a bydd angen ei ad-dalu o fewn;
5 mlynedd os ydych yn landlord neu
10 mlynedd os ydych yn berchen-feddiannydd.
Bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal a bydd yn penderfynu pa mor hir y bydd yn rhaid i ymgeisydd ad-dalu'r benthyciad. Os gwerthir yr eiddo o fewn tymor y benthyciad, rhaid ad-dalu'r benthyciad ar unwaith. Gellir ad-dalu pob benthyciad yn gynt os yw'r ymgeisydd yn dymuno gwneud hynny
Sylwch na all unrhyw fenthyciad a gynigir (gan ystyried unrhyw forgais sy'n bodoli) fod yn fwy na 80% o werth cyfredol yr eiddo. Rhaid sicrhau'r benthyciad trwy warantu arwystl cyntaf neu ail yn erbyn yr eiddo. Os oes morgais yn bodoli ar yr eiddo mae angen i'r benthycwyr ganiatáu i warantu ein harwystl
Gall eich cartref gael ei adfeddiannu os na fyddwch yn parhau â’ch ad-daliadau.
I gael mwy o wybodaeth am Fenthyciadau Gwella Cartrefi Pont-y-pŵl ewch i wefan Cartrefi Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/01/2020
Nôl i’r Brig