Apêl Siôn Corn Torfaen 2022
Mae Apêl Siôn Corn Torfaen 2022 nawr ar agor i roddion.
Dyma’r 15fed mlynedd i ni redeg Apêl Siôn Corn Torfaen a phob blwyddyn rydym yn synnu at faint mor hael yw trigolion lleol.
Ynghyd ag anrhegion, eleni gall trigolion hefyd ddewis cyfrannu cardiau anrheg stryd fawr a fydd naill ai’n cael eu rhoi i deuluoedd a phobl ifanc, neu’n cael eu defnyddio gan y timau i brynu anrhegion ar eu rhan.
Bydd Apêl Siôn Corn Torfaen 2022 yn rhedeg tan ddydd Iau 8 Rhagfyr. Ni fydd unrhyw roddion yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad yma.
I gyfrannu anrheg neu docyn anrheg, ffoniwch 01633 647539, Llun – Iau rhwng 9.00am to 4.00pm.
Byddwch yn cael oedran a rhywedd plentyn neu berson ifanc, a rhif cyfeirio, a bydd angen rhoi hwn ynghlwm wrth yr anrheg neu’r tocyn. Ni allwn bellach roi enw oherwydd canllawiau Diogelu Data.
Gellir gadael rhoddion – na ddylid eu lapio – a’r tocynnau yn y mannau canlynol:
- Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN.
- Dydd Mawrth a dydd Iau: 10.00am – 2.30pm
- GCPIT, Y Stiwdio, Stad Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU.
- Dydd Mawrth: 9.00am – 5.00pm
- Llyfrgell Cwmbrân, Sgwâr Gwent, Cwmbrân, NP44 1PL
- Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9.00am - 5.30pm
- Dydd Iau: 8.45am - 7.00pm
- Dydd Gwener: 8.45am - 6.00pm
- Dydd Sadwrn: 8.45am - 1.00pm
Mae tocynnau anrheg a argymhellir ar gyfer plant iau yn cynnwys tocynnau Argos, Smyths Entertainer. Argymhellir tocynnau Love2Shop neu One4All sydd ar gael o archfarchnadoedd neu Swyddfeydd Post ar gyfer rhai yn eu harddegau a phobl ifanc.
Gallwch hefyd gyfrannu bwyd annarfodus a fydd yn cael ei ddefnyddio i greu basgedi ar gyfer pobl ifanc 16 oed a throsodd sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Y llynedd, rhoddwyd bron i 800 o anrhegion a basgedi bwyd i fwy na 200 o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cynorthwyo gan Dimau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2022
Nôl i’r Brig