Cysylltwyr Cymunedol Torfaen

Mae Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi ac yn galluogi pobl i ddod o hyd i weithgareddau, grwpiau a rhwydweithiau addas sy'n uno pobl y gallai fod ganddynt ddiddordebau tebyg. Mae hyn yn helpu i annog cyfranogiad ac ymgysylltu yn y gymuned ac adeiladu hunan hyder, gwydnwch a lles.

Cysylltwyr Cymunedol:

  • Hyrwyddo lles, annibyniaeth a bywydau llawn
  • Gweithio i leihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd
  • Galluogi pobl a’u cefnogi i deimlo’n rhan o’u cymuned neu fod yn rhan o’r gymuned honno
  • Annog, hwyluso a chefnogi grwpiau a gweithgareddau newydd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Mae gan y tîm ystod o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn lleol ac mae mewn cysylltiad â nifer o grwpiau lleol fel crefftau, boreau coffi, garddio, clybiau cinio, crochenwaith a grwpiau cerdded. Mae Dewis Cymru hefyd yn adnodd defnyddiol o ran gwybodaeth am grwpiau a gwasanaethau lleol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01495 742397 neu e-bostiwch communityconnectors@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cysylltwyr Cymunedol

Ffôn: 01495 742397

Ebost: communityconnectors@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig