Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Mae Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn grant a roddir gan lywodraeth leol, ar ôl gwneud prawf modd, i helpu tuag at y gost o addasu eich cartref i'ch galluogi i barhau i fyw yno. Bydd Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cael ei dalu pan fydd y Cyngor yn ystyried bod newidiadau yn angenrheidiol er mwyn ateb eich anghenion a bod y gwaith yn rhesymol ac ymarferol. 

Ni chaiff prawf modd ei gynnal os yw'r addasiadau ar gyfer plentyn anabl. Nid oes prawf modd ar gyfer gwaith sy’n costio llai na £8,000.

Gall addasiadau gynnwys gosod lifft grisiau a/neu rampiau, gwella mynediad i ystafelloedd, ychwanegu cyfleuster ymolchi lawr y grisiau neu gawod cerdded y gallwch gerdded i mewn iddi, ac estyniadau.

Gallai Grant Cyfleusterau i'r Anabl dalu rhan o gost gwaith addasu sylweddol neu'r cyfan ohono hyd at £36,000. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i gael grant os oes gennych anabledd corfforol parhaol a sylweddol; dim ond i'ch unig gartref neu'ch prif gartref yn Nhorfaen y gellir gwneud addasiadau a rhaid bod y rhain wedi'u teilwra i ateb eich anghenion. Cynhelir asesiad llawn o'ch anghenion a'ch cartref i benderfynu a ydych yn gymwys a pha waith y mae angen ei wneud.

Nid oes rhaid i'r person anabl wneud cais - gallwch wneud hynny ar ran eich priod/partner neu blentyn; fodd bynnag:

  • Rhaid mai chi yw'r perchennog neu'r perchennog-ddeiliad
  • Rhaid eich bod yn denant preifat (a bod gennych ganiatâd y landlord)

Dylai tenantiaid cymdeithasau tai droi at eu landlord yn y lle cyntaf. 

Yn Nhorfaen, caiff y Grant Cyfleusterau i'r Anabl ei weinyddu gan y Gwasanaeth i Bobl Anabl, sy'n cynnig un man cyrchu ar gyfer ateb anghenion tai a gofal cymdeithasol pobl anabl. Cynhelir asesiad llawn o'ch anghenion a'ch cartref i benderfynu a ydych yn gymwys a pha waith y mae angen ei wneud. 

Bydd ein therapyddion galwedigaethol yn asesu'r angen am addasiadau ar draws pob math o ddaliadaeth. Fodd bynnag, os ydych yn denant, caiff ein hargymhellion eu hanfon at eich landlord i wneud penderfyniad ar ddarparu'r addasiadau ai peidio. 

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth i Bobl Anabl

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig