AskSARA - offeryn asesu ar gyfer cymhorthion ac offer byw
Mae Tîm Partneriaeth Gwent wedi bod yn gweithio gyda'r Disabled Living Foundation ac mae’n falch o gyhoeddi fersiwn Gwent-eang o AskSARA – pecyn cymorth asesu arlein ar gyfer cymhorthion byw ac offer.
Gall AskSARA eich helpu i ganfod gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chynhyrchion i wneud gweithgareddau bob dydd yn eich cartref yn haws. Mae hefyd yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
Dewiswch bwnc yr hoffech gael help gydag o, atebwch gwestiynau syml amdanoch chi a’ch amgylchedd ac, yn seiliedig ar eich atebion, bydd AskSARA yn awgrymu:
- syniadau ac awgrymiadau ar sut i wneud eich bywyd yn haws
- manylion cynhyrchion a all helpu a lle i gael hyd iddyn nhw
- cysylltiadau er mwyn cael mwy o gyngor a chymorth os oes angen
Mae AskSARA yn opsiwn arall i gysylltu â ni'n uniongyrchol er mwyn asesu'r anghenion sydd gennych, ond gallwch barhau i gysylltu â ni'n uniongyrchol ar 01495 762200 neu e-bostio socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk.
Ewch i AskSARA ar gwent.livingmadeeasy.org.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2021
Nôl i’r Brig