Tîm ADY

Mae’r Tîm ADY yn gyfrifol am weinyddu rhwymedigaethau statudol Torfaen fel y’u hamlinellir yng Nghod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002 ac o fis Medi 2021 Deddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg (2018)

Rydym yn gweithio ar y cyd gyda phartneriaid allweddol, rhieni/gofalwyr a phobl ifanc i gynnig cyngor a chymorth drwy’r broses statudol ac unwaith y bydd Datganiad/ CDU wedi ei gyhoeddi.

Rôl:

  • Darparu cyngor ac arweiniad i ddarparwyr addysg, rhieni, a gweithwyr proffesiynol eraill ynghylch y broses datganiadau.
  • Ysgrifennu a diwygio datganiad anghenion addysgol arbennig.
  • Darparu prif bwynt cyswllt rhwng yr ALl, ysgolion, rhieni, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â disgybl penodol.
  • Mynychu Adolygiadau Blynyddol disgyblion sydd â datganiad AAA/CD i roi cyngor, arweiniad a chymorth.

Swyddogion Cyswllt ADY

Mae gan Dorfaen dîm bach o Swyddogion Cyswllt sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi ysgolion, rhieni/gofalwyr, ac asiantaethau eraill i gynllunio ar gyfer disgyblion ag ADY a Dysgwyr Bregus. Mae’r tîm yn cyflawni’r dyletswyddau statudol a nodir gan y Deddfau Addysg ac ADY i hyrwyddo cynhwysiant, cefnogi ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn derbyn eu hawliau addysg a bod eu hanghenion unigol yn cael eu diwallu yn unol â phrosesau a gweithdrefnau Lleol/Rhanbarthol a Chenedlaethol. Mae gan bob ysgol Swyddog Cyswllt dynodedig a all roi cyngor ac arweiniad ar ADY.

Llwybr Atgyfeirio

Cynllunnir ar gyfer mwyafrif y disgyblion ADY a darperir ar eu cyfer gan ysgolion prif ffrwd trwy ymateb graddedig, o'r cyllidebau ADY pwrpasol. 

I nifer fach o ddisgyblion sydd ag anghenion sylweddol a chymhleth iawn, efallai y bydd angen asesiad neu ddarpariaeth fwy arbenigol.

Hyd at 31 Rhagfyr 2021 gall ysgol neu riant/unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant wneud cais am asesiad statudol  i’r Awdurdod Lleol yn dilyn y broses asesu statudol a nodir yng Nghod Ymarfer ADY 2002.

O fis Medi 2021 bydd y Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg yn dod i rym. Dros y cyfnod gweithredu 3 blynedd bydd Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu trosglwyddo i Gynllun Datblygu Unigol (CDU) a fydd yn gynllun statudol newydd i Gymru ar gyfer disgyblion ag ADY. Bydd mwyafrif y CDU yn cael eu cynnal a'u rheoli ar lefel ysgol.  Bydd gan ddisgyblion y mae’r ALl yn gyfrifol amdanynt a’r disgyblion hynny sydd ag anghenion sylweddol a chymhleth sydd angen lleoliadau arbenigol, CDU yr Awdurdod Lleol.

Ffoniwch/e-bostiwch yn uniongyrchol i gael cyngor a chymorth.

Manylion Cyswllt y Gwasanaeth

Uwch-reolwr ADY

Donna Lewis
Ffôn: 01495 766974
E-bost: donna.lewis@torfaen.gov.uk

Rheolwr ADY

Tracy Tucker
Ffôn: 01495 766998
E-bost: tracy.tucker@torfaen.gov.uk

Swyddog Cyswllt ADY (Gogledd)

Sarah Garner
Ffôn: 01495 766971
E-bost: sarah.garner@torfaen.gov.uk

Swyddog Cyswllt ADY (De)

Angharad Wooding
Ffôn: 01495 766973
E-bost: angharad.wooding@torfaen.gov.uk

Swyddog Cyswllt ADY – Plant Sy’n Derbyn Gofal

Natalie Hodges
Ffôn: 01495 766985
E-bost: natalie.hodges@torfaen.gov.uk

Emma Murphy
Ffôn: 01495 766900
E-bost:  emma.murphy@torfaen.gov.uk

Swyddog Cymorth ADY

Gemma Cording
Ffôn 01495 766950
E-bost: gemma.cording@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 13/01/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig