Nod y gwasanaeth
Ein nod yw creu diwylliannau cynhwysol yn ein hysgolion i wneud y mwyaf o gyfleoedd addysgol i holl ddisgyblion Torfaen. Rydym am i bob plentyn, rhiant, ac aelod o staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal drwy chwalu rhwystrau i ddysgu plant ac annog eu cyfranogiad llawn ym mywyd yr ysgol.
Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Chymorth Canolog yr Awdurdod Lleol yn gweithio ar y cyd â’r person ifanc, ysgolion a lleoliadau addysg, rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i ddisgyblion sydd ag neu a allai fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) trwy ystod o wasanaethau a darpariaethau fel rhan o’n hymateb graddedig..
Bydd anghenion y mwyafrif o ddisgyblion yn cael eu nodi, eu diwallu, a'u monitro o fewn ysgolion prif ffrwd neu goleg. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac ar gyfraddau gwahanol. Ym mhob dosbarth ym mhob ysgol bydd rhai disgyblion yn symud ymlaen yn arafach na phlant eraill. Bydd y disgyblion hyn yn elwa ar addysgu a dysgu gwahaniaethol o ansawdd da, a chymorth cyffredinol. Bydd rhai disgyblion yn cael eu hadnabod yn rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac angen ymyriadau wedi eu targedu, a Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) a ddarperir gan eu hysgol.
Bydd gan nifer fach o blant Anghenion Ddysgu Ychwanegol difrifol a chymhleth na ellir eu diwallu’n rhesymol o fewn cyd-destun ysgol brif ffrwd. Mae gan Dorfaen amrywiaeth o wasanaethau a darpariaethau sy'n asesu, yn bodloni ac yn monitro anghenion y plant hyn.
Mae’r ddogfen hon yn nodi map darpariaeth Torfaen a’r gwasanaeth a gynigir i ysgolion gyda gwybodaeth am gyrchu gwasanaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Nôl i’r Brig