Menter Dysgu Siarad y Blynyddoedd Cynnar

Mae ALl Torfaen wedi blaenoriaethu adnabod yn gynnar anghenion arbennig neu addysgol plant ifanc trwy'r fenter Teaching Talking. Mae Teaching Talking yn rhaglen sgrinio ac ymyrryd i blant ag anawsterau iaith a lleferydd. Ar hyn o bryd, caiff ei defnyddio gyda phlant y blynyddoedd cynnar a phlant oed meithrin a derbyn mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd. 

Mae i Teaching Talking werth cydnabyddedig o ran:

  • Darparu dilyniant manwl o ddatblygiad iaith lafar plentyn;
  • Pwysleisio pwysigrwydd iaith lafar wrth ddatblygu darllen ac ysgrifennu;
  • Gwneud cysylltiadau rhwng iaith a datblygu sgiliau personol, cymdeithasol a gwybyddol. 

Mae meithrinfeydd ac ysgolion cynradd Torfaen yn defnyddio Teaching Talking wrth sgrinio (dwywaith y flwyddyn) a monitro cynnydd plant ifanc (oed meithrin a derbyn) yn rheolaidd. Mae'r Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT) yn cefnogi meithrinfeydd ac ysgolion ym mhob agwedd ar Teaching Talking ac mae'n gallu darparu grwpiau addysgu enghreifftiol a gwaith uniongyrchol ar sail a gyfyngir gan amser.

Mae Teaching Talking yn broses haenog lle caiff pob plentyn ei sgrinio, caiff ymateb priodol ei gynnig a chaiff deilliannau eu monitro dros amser. Mae'r pwyslais mawr hwn ar adnabod plant ifanc ag anawsterau neu oedi iaith a lleferydd yn gynnar yn unol â chanlyniadau Adroddiad Bercow (2008, t.3) sy'n datgan:

Mae'r gallu i gyfathrebu yn sgil bywyd hanfodol i bob plentyn ac unigolyn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae wrth wraidd holl ryngweithio cymdeithasol. Â sgiliau cyfathrebu effeithiol, gall plant ymgysylltu a ffynnu. Hebddynt, bydd plant yn cael trafferth dysgu, cyflawni, gwneud ffrindiau a rhyngweithio gyda'r byd o'u cwmpas.

Mae Teaching Talking yn helpu i sicrhau y caiff plant ag anghenion arbennig eu hadnabod yn gynnar mewn lleoliad addysg a bod darpariaeth adfer briodol yn cael ei rhoi yn ei lle. Gyda gwybodaeth a chaniatâd rhieni, gall staff addysgu ddefnyddio cofnodion sgrinio ac ymyrryd Teaching Talking i hysbysu'r ALl o bryderon am AAA/AY plentyn. 

Cefnogaeth ychwanegol

Mae gan yr Awdurdod Lleol broses yn y blynyddoedd cynnar a gynlluniwyd i sicrhau y caiff plant sydd ag anghenion addysgol arbennig eu hadnabod yn gynnar, a helpu i sicrhau y caiff y plant hyn eu cefnogi'n briodol wrth iddynt fynd i ddosbarthiadau meithrin. 

Daw gwybodaeth am blant cyn-ysgol y gallai fod ganddynt anghenion ychwanegol o sawl ffynhonnell. Y Gwasanaeth Iechyd sy'n darparu'r mwyafrif o wybodaeth ond daw hefyd oddi wrth rieni, gweithwyr gofal cymdeithasol a chyfarfodydd lle mae nifer o asiantaethau gwahanol ynghlwm, fel y Tîm Datblygu Plant. 

Caiff y wybodaeth hon ei hystyried yn fisol a, lle bo'n briodol, bydd y seicolegydd addysg sy'n gyfrifol am y blynyddoedd cynnar yn trefnu ymweliad. Bydd y seicolegydd addysg mewn sefyllfa wedyn i ddarparu cyngor, ochr yn ochr â chyngor gan wasanaethau eraill, i'r Panel Anghenion Ychwanegol o ran a oes angen cefnogaeth ychwanegol pan fydd y plentyn dechrau mewn dosbarth meithrin. Mae hyn yn sicrhau bod cefnogaeth briodol yn ei lle pan fydd y plentyn yn dechrau yn y dosbarth meithrin.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

 

Nôl i’r Brig