Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos ag awdurdodau lleol i gwblhau’r ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
O Fedi 2023 bydd pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn Nhorfaen yn derbyn Prydiau Ysgol am Ddim.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb yna does dim rhaid i chi wneud eto. Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, cysylltwch â’ch ysgol yn uniongyrchol os gwelwch yn dda.
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw derbyn Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer Grant Hanfodion Ysgolion.
Gall plant y mae eu teuluoedd ar incwm is ac yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau wneud cais am grant o:
- £125 i bob dysgwr
- £200 i ddysgwyr yn mynd i mewn i flwyddyn 7 (i helpu gyda chostau cynyddol sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd
Am fwy o wybodaeth, ewch i Grant Hanfodion Ysgolion
Diwygiwyd Diwethaf: 05/07/2023
Nôl i’r Brig