Rhaglenni Magu Plant
Magu plant yw un o'r cyfrifoldebau pwysicaf i rieni, teuluoedd a chymunedau.
Nid yw'r gallu i fagu plant yn rhywbeth sy'n cael ei ddysgu yn sydyn, ond mae'n cynnwys datblygu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a hunanymwybyddiaeth yn barhaus.
Dyfeisiwyd y grwpiau Magu Plant i gynorthwyo rhieni trwy'r heriau y gallech eu hwynebu wrth fagu eich plant.
Mae Torfaen yn cynnal sawl Rhaglen Magu Plant bob tymor, a hynny mewn gwahanol leoliadau. Cysylltwch â'r Cydlynydd Rhianta Amlasiantaeth ar 01495 766479 i gael mwy o wybodaeth.
Mae Torfaen yn cynnal sawl Rhaglen Magu Plant bob tymor a hynny ar-lein trwy Microsoft Teams ac mewn gwahanol leoliadau.
Gyda Beth Allwn Ni Helpu?
Cysylltiadau Teuluol: Croeso i'r Byd (Ystod oedran – cyn-geni)
Mae'r wyth sesiwn yn ffordd hamddenol i rieni feddwl am y newid i fod yn rhiant a thrafod materion a all fod yn her i bob mam a thad newydd.
Dros yr wyth wythnos byddwch chi'n cwrdd â rhieni eraill ac arweinwyr grwpiau hyfforddedig i drafod cwestiynau pwysig fel
- Sut mae fy mabi yn datblygu?
- Sut ddylwn i fwydo fy mabi?
- Beth fyddaf yn ei wneud pan fydd fy mabi yn crio?
- Oes help ar gael?
Mae rhieni'n mynychu'r grŵp o tua'r 22ain wythnos o feichiogrwydd.
Mae wyth sesiwn 2 awr gydag egwyl te a choffi.
Rhaglen Babanod y Blynyddoedd Rhyfeddol
Mae hwn yn gwrs 8 wythnos hamddenol a difyr wedi'i gynllunio ar gyfer rhieni sydd â babi 0-6 mis. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Sut i fondio â'ch babi
- Helpu'ch babi i gysgu
- Diddyfnu
- Diogelwch
- Pryd i ffonio Meddyg
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Bydd eich babi gyda chi yn y grŵp ac mae pob sesiwn yn cynnwys bod yn actif gyda'ch babi.
Rhaglen Plant Bach y Blynyddoedd Rhyfeddol
Mae hwn yn gwrs difyr 10 wythnos wedi'i gynllunio ar gyfer rhieni sydd â phlentyn bach 1-2 oed. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Hyrwyddo iaith Plant Bach
- Canmol ac Annog
- Delio â Gwahanu ac Ailgynnull
- Gosod Terfynau Effeithiol
- Disgyblaeth Gadarnhaol
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Bydd crèche ar gael i'ch plentyn bach
Gweithdai Cysylltiadau Teuluol
Dyma gyfres o 4 gweithdy i rieni a gofalwyr. Mae’n meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar 4 syniad allweddol:
- Hunan-ymwybyddiaeth a hunan-barch
- Disgwyliadau priodol
- Empathi
- Disgyblaeth Gadarnhaol
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ddysgu rhai awgrymiadau i rieni yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â rhieni eraill. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Grym Canmoliaeth
- Chwarae dan arweiniad y plentyn
- Teimladau Anodd
- Amser i dawelu
- Meithrin Ein Hunain
Rhaglen Magu Plant Cysylltiadau Teuluol
Dyma gwrs 10-wythnos i rieni a gofalwyr. Mae’n meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar 4 syniad allweddol:
- Hunan-ymwybyddiaeth a hunan-barch
- Disgwyliadau priodol
- Empathi
- Disgyblaeth Gadarnhaol
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ddysgu rhai awgrymiadau i rieni yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â rhieni eraill. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Grym Canmoliaeth
- Ymddygiad i'w anwybyddu
- Gwobrwyon a chosbau
- Ymdopi â theimladau
- Dewisiadau a Chanlyniadau
- Sut i ddefnyddio Amser Datganiadau ‘Fi’ i dawelu
- Meithrin ein hunain
- Helpu plant i dyfu i fyny
- Gwasanaethau Cymorth Magu Plant
Rhaglen Sylfaenol y Blynyddoedd Rhyfeddol
Mae'r Rhaglen Sylfaenol yn gwrs 10 wythnos sy'n hyrwyddo defnyddio canmoliaeth a chymhellion i annog ymddygiad cydweithredol ynghyd â disgyblaeth gadarnhaol sy'n edrych ar:
- Gosod rheolau tŷ
- Trefnau rheolaidd
- Gosod terfynau effeithiol sy'n atgyfnerthu sgiliau cymdeithasol a rheoleiddio emosiynau plant
- Defnyddio strategaethau ymdawelu
Cysylltiadau Teuluol: Trafod Plant yn eu Harddegau
Mae gweithdai Trafod Plant yn eu Harddegau yn seiliedig ar ymchwil gyfredol ar ddatblygiad pobl ifanc a magu plant. Cawsant eu dylunio ar gyfer rhieni pobl ifanc yn eu harddegau a'r rhai y mae eu plant yn agosáu at yr arddegau (wedi'u hanelu at rieni plant 10-16 oed).
Maent yn anelu i wella’r berthynas rhwng rhieni a phlant yn eu harddegau drwy:
- Archwilio pwysigrwydd rhieni i bobl ifanc yn eu harddegau
- Datblygu dealltwriaeth rhieni o ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a dylanwad datblygiad yr ymennydd ar ymddygiad
- Datblygu dealltwriaeth rhieni o bwysigrwydd gwrando, cyfathrebu ar lafar ac heb eiriau gyda phobl ifanc yn eu harddegau
- Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o osod ffiniau a datrys problemau
- Rhoi cyfle i rieni rannu eu profiad â rhieni eraill.
Cynigir 4 sesiwn.
Cysylltu â’r Tîm
Cysylltwch â’r Cydlynydd Rhianta Amlasiantaeth ar 01495 766479 i gael mwy o wybodaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Nôl i’r Brig