Parthau Rheoli Galwadau Digroeso

Beth yw Parth Rheoli Galwadau Diwahoddiad?

Mae troseddu ar stepen y drws yn cynnwys pob agwedd ar golled i ddefnyddwyr a throseddu sy'n deillio o alwyr ar stepen y drws. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr twyllodrus, gwerthwyr sy'n rhoi llawer o bwysau ar ddefnyddwyr, swyddogion twyllodrus a bwrgleriaeth drwy dynnu sylw, ac mae'n ffaith sefydledig bod masnachwyr twyllodrus a bwrgleriaeth drwy dynnu sylw yn aml yn rhyng-gysylltu â'r gilydd.

Yn 2002, adroddodd arolwg cenedlaethol a gwblhawyd gan y Sefydliad Safonau Masnach nad oedd 96% o bobl eisiau galwyr diwahoddiad ac nad oedd unrhyw un yn eu croesawu. Adroddodd 62% o'r rhai a holwyd fod galwr diwahoddiad wedi ymweld â nhw yn ystod y tri mis blaenorol.

Nid yw galwad diwahoddiad cychwynnol yn anghyfreithlon, ac nid oes unrhyw statws cyfreithiol i Barth Rheoli Galwadau Diwahoddiad. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth newydd wedi creu troseddau ar gyfer galwyr mynych a thrwy weithio ar y cyd, mae'r parthau hyn yn rhoi'r hyder i drigolion ddweud 'NA' wrth unigolion sy'n galw heibio heb drefnu apwyntiad ymlaen llaw, ac yn rhoi neges glir nad oes croeso i fasnachwyr twyllodrus a galwyr ffug yn yr ardal.

Bydd llawer o fusnesau dilys yn gwneud pethau'n haws i drigolion trwy bostio catalog trwy'r drws. Mae hyn yn osgoi unrhyw deimlad o wrthdaro ar stepen y drws ac yn gadael i'r unigolyn benderfynu a yw am brynu nwyddau ac ati gan y cwmni dan sylw.

Sut mae Parth Rheoli Galwadau Diwahoddiad yn gweithio?

Mae'r Parth Rheoli Galwadau Diwahoddiad yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Heddlu Gwent ac, yn bwysicach fyth, y trigolion lleol eu hunain. Caiff mynedfeydd yr ardal eu hamlygu trwy osod arwyddion ar bolion lampau, a gall trigolion atgyfnerthu'r neges trwy roi sticer mewn ffenestr yn agos at y drws ffrynt.

Parthau Rheoli Galwadau Diwahoddiad yn Nhorfaen

Er mwyn ceisio cynyddu ei effeithiolrwydd o ran mynd i'r afael â throseddu ar stepen y drws, mae Safonau Masnach Torfaen wedi cyflwyno Parthau Rheoli Galwadau Diwahoddiad yn yr ardaloedd canlynol yn Nhorfaen.

Ward Blaenafon

  • Ger-yr-efail
  • Garn-yr-erw
  • Capel Newydd
  • Curwood
  • Cilgant Cennard
  • Heol Avon/Brynafon
  • Heol Llanofer
  • Elgam Uchaf

Ward Brynwern 

  • Y Cylch
  • Park Terrace/Stryd Nicholas (a'r ardal)

Coed Eva

  • Meyricks
  • Tillsland, Stevelee, Gorllewin Roedin, Dwyrain Roedin a Offway
  • Willins a Tydies

Ward Gogledd a De Croesyceiliog

  • Pob ardal

Cwmynyscoy

  • Blaendare Road
  • Cwmynyscoy Road
  • Cwmfarm Lane
  • Hillside Drive
  • Farm Road
  • Ffordd Greys
  • Mynydd View
  • St Matthews Road
  • Dingle Road
  • Sgwâr Granston
  • Neyland Path
  • Wiston Path
  • Clos Cendl

Fairwater

  • Ty Gwyn Bungalows
  • Bryn Tirion
  • Llwybr Bryn Tirion
  • Clos Fairwater
  • Tyn-y-Coed
  • St Peters Close
  •  Heol Windsor
  • Llwybr Trefin
  • Dinas Path
  • Llwybr Steynton
  • Llwybr Dale
  • Rhodfa Pentywyn
  • Llanerch Path
  • Llwybr Picton
  • Cheriton Path

Greenmedow

  • Pandy (rhif 293 - 315)
  • Picwic green

Griffithstown a Sebastopol

  • Maes-y-celyn a Brynheulog
  • Maesderwen a The Moorings
  • Heol Stafford (rhif 65-117)
  • Clos St Mary
  • Clos Open Hearth
  • Elm Grove
  • Heol Wern, Heol Austin a School Crescent
  • Llys Glen

Llwyncelyn

  • Trostrey (rhif 130 - 151)

Llanfrechfa (uchod a isod)

  • pob ardal

Ward Llantarnam

  • Oakfield (pob ardal)
  • Fferm y Cwrt (pob ardal)
  • Parc Cory (Abbey Fields)

Ward Gogledd a De Llanyrafon

  • Pob ardal

Ward New Inn

  • Heol Lancaster , Clos Warwick ,Clos Monmouth  a Clos Eglwys 
  • Heol Caroline , Heol Blodwen, Heol Link  a Ffordd Ambrose   
  • Hillcrest, Heol Ambryn Trostrey CLose, Penylan Close a Cwmsor Close
  • Palm Close, Laburnum Drive, Chestnut Close and Hazel Close
  • Heol Usk  (Nos 63 – 109)
  • Princes Rhodfa
  • Sunlea Crescent
  • Coed-y-Cando Road
  • Heol Hillcrest
  • Heol Hand Farm

Ponthir

  • Pob ardal

Pentwyn

  • Kiln Close

Pontrhydyrun

  • Heol y Glyn
  • Clos Avondale
  • Cilgant y Glyn

Ward Pont-y-pŵl 

  • Brynwern
  • Park Terrace uchaf a isaf , Stryd John, Stryd Nicholas a stryd y pont uchaf
  • Heol Victoria, Golygfa y parc , Terrace Pen y Graig , Daisy View and School View
  • Ty Newydd, Park Road, Clos Dewi sant, Park Gardens, Lower Park Gardens, Churchwood a Clos Churchwood 

Ward St Dials a Hen Cwmbran 

  • Heol St Dials
  • Pen-y-waun/Hilltop Road (a'r ardal) 
  • Stryd Wesley/Stryd y Dderwen/Stryd y Seren/Heol Abaty (a'r ardal)

Thorhill

  • Cwrt Stour (rhif 27 - 31)

Trevethin

  • Newman Road
  • Upland Drive
  • Ffordd Maesglas

Dwy loc

  • Heol Waun, Ledbrooke Close, New Chapel Court, Pendoylan Walk,  Kenilworth Place, Presteigne Walk, Langstone Court a Nolton Place.
  • Coed Glas, Trem Twynbarlwm, Cae Derwen, Fetty Place, Green  Acre, Kemys Walk, Cwrt Bleddyn,  Glyntirion a Llwyn Celyn.

Cwmbran Uchaf

  • Heol Thornhill aClos Thornhill 
  • Heol Graig, Heol Tram  a Bethel Lane
  • Heol Cwmbrân uchaf a Golygfa Severn 
  • Y Sgwâr

Ward Wainfelyn

  • Clos Avalon 
  • Heol Wainfelin, Wainfelin Avenue a School Lane
  • Stryd Fowler, Jubilee Terrace, Stryd Campbell
  • Helpstone Terrace, Bushy Park a Fairfield Terrace
  • Clos
  • St John's  a St John's Terrace
  • Penywain Lane a Clos Llanerch 
  • Rosser Street, Penywain Terrace, Heol Penywain a Stryd Penywain

Beth sy'n digwydd os bydd galwyr diwahoddiad yn galw heibio i'r tŷ?

Dylai trigolion roi gwybod i Safonau Masnach Torfaen am unrhyw alwyr diwahoddiad gan ddefnyddio'r rhif 03454 04 05 06 (Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - Cyswllt Defnyddwyr Cymru gynt) neu Heddlu Gwent gan ddefnyddio'r gwasanaeth 101. Ym mhob achos lle caiff galwyr diwahoddiad eu canfod yn y parth, byddant yn cael gofyn yn ffurfiol am beidio â galw'n ddiwahoddiad yn yr ardal eto. I'r perwyl hwnnw, cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Heddlu Gwent a'r 5 gwasanaeth Safonau Masnach yn ardal Gwent Fwyaf a chaiff hwn ei ddefnyddio i ddarparu ymateb cyflym i unrhyw ddigwyddiad y rhoddir gwybod amdano.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Safonau Masnach

Ffôn: 01633 647274

 

Nôl i’r Brig