Newidiadau i Fudd-daliadau Lles
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o newidiadau i fudd-daliadau gan gynnwys Budd-dal Tai (BT).
Mae rhai o’r newidiadau eisoes wedi digwydd ac mae rhai ar fin cael eu cyflwyno. Mae’r prif newidiadau yn cael eu hesbonio isod.
Cyfyngiadau ar Rent yn y Sector Rhentu Cymdeithasol
Yn Ebrill 2013 cyflwynwyd rheolau a oedd yn gosod allan y nifer o ystafelloedd gwely bydd Budd-dal Tai yn talu amdanynt ar gyfer pobl o oedran gweithio sy’n byw mewn cartrefi Cymdeithas Tai e.e. Bron Afon, Tai Sir Fynwy, Pobl neu Melin.
Bydd tenantiaid sy’n tan-feddiannu’u cartrefi yn gweld gostyngiad o 14% yn eu BT ar gyfer un ystafell sbâr a 25% ar gyfer dwy ystafell sbâr neu fwy.
Caniateir un ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:
- pob cwpwl (priod neu ddi-briod) o oedolion.
- unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu’n hŷn.
- unrhyw ddau o blant o’r un rhyw dan 16 oed. •unrhyw ddau o blant dan 10 oed.
- unrhyw blentyn arall (ar wahân i blentyn y mae ei brif gartref yn rhywle arall).
- Gofalwr neu dîm o ofalwyr sy'n darparu gofal dros nos i'r hawliwr, eu cymar, plentyn anabl neu oedolyn* annibynnol (ar yr amod bod ganddynt ystafell sbâr at y diben hwn a'u bod yn bodloni meini prawf penodol). Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth
- Plentyn/plant maeth (dim ond un ystafell wely a ganiateir ar yr amod bod ystafell sbâr at y pwrpas hwn. Rhaid i’r gofalwyr maeth fod wedi’u cymeradwyo).
- Unrhyw unigolyn nad yw’n ddibynnydd sydd yn y lluoedd arfog ac sy’n absennol o’i gartref Dros dro (ar yr amod ei fod yn bwriadu dychwelyd adref) e.e. mab neu ferch wedi tyfu i fyny sy’n byw gyda’r rhieni ond i ffwrdd yn gwasanaethu.
- Cwpl *neu blentyn anabl blentyn sy'n methu rhannu ystafell wely oherwydd eu hanableddau difrifol. Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth.
*Cyflwynwyd rheolau newydd o 1 Ebrill 2017 i ganiatáu ystafell sbâr ychwanegol i ar gyfer y grwpiau yma.
Os ydych am fwy o wybodaeth yna cysylltwch â ni.
Y Cap Budd-daliadau
Fel rhan o’r Ddeddf Diwygio Lles cyflwynodd y llywodraeth gap ar gyfanswm y budd-daliadau y gall teulu o oed gweithio dderbyn. (Diffinnir teulu fel yr hawlydd, cymar ac unrhyw blant y maen nhw’n gyfrifol amdanynt ac sy’n byw gyda nhw).
Ar gyfer y rheiny sy’n byw y tu allan i Lundain y cap presennol yw:
- £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) ar gyfer cyplau (gyda neu heb blant) a rhieni sengl a
- £257.69 yr wythnos (£13,400 y flwyddyn) ar gyfer hawlydd sengl.
Os yw person yn cael eu heffeithio gan y cap mae eu Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn gostwng.
Am fwy o wybodaeth am y cap ewch i www.gov.uk/benefit-cap.
Newidiadau o Ebrill 2017
Cyfyngiadau ar Gynhaliaeth Plant
Bydd Cynhaliaeth Plant yn cael ei gyfyngu i fwyafswm o 2 o blant ar gyfer hawliadau BT a Chredyd Treth. Ar gyfer hawliadau cyfredol ni chaniateir ychwanegiadau ar gyfer plant ble genir trydydd plentyn a phlant dilynol. Bydd rhai eithriadau yn berthnasol gan gynnwys i blant anabl.
Nodyn - Ni fydd y cyfyngiad ar Gynhaliaeth Plant (i 2 o blant) yn cael ei drefnu trwy Gredyd Cynhwysol tan Chwefror 2019 (ac eithrio teuluoedd ar Gredyd Cynhwysol sy’n cael trydydd plentyn ar ôl Ebrill 2017 sy’n aros ar Gredyd Cynhwysol ac yn derbyn yr elfen blant am 2 o blant). Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau’n cyfeirio hawliadau newydd o deuluoedd gyda mwy na dau o blant i hawlio BT a Chredydau Treth tan Chwefror 2019.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC)
Diddymu’r darn Gweithgaredd yn ymwneud â Gwaith
Bydd hawlyddion newydd LCC sydd yn cael eu rhoi yn y Grŵp Gweithgaredd yn ymwneud â Gwaith yn derbyn yr un lefel o fudd-dal â’r rheiny sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a’r un peth yng Nghredyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd bod y darn Gweithgaredd yn ymwneud â Gwaith yn cael ei ddileu. Dyw’r ddarpariaeth yma ddim yn effeithio pobl sydd yn y Grŵp Cynnal.
Diddymu’r terfyn gwaith a ganiateir gyda LCC
O 3 Ebrill 2017, ni fydd rhaid i hawlyddion LCC sy’n ymgymryd â gwaith a ganiateir ac sy’n ennill rhwng £20 a £115.20 yr wythnos rhoi gorau i’r gwaith neu stopio hawlio LCC ar ôl 52 wythnos.
Credyd Treth Plant
Bydd yr elfen deulu o Gredyd Treth Plant (£545) ond yn cael ei chynnwys mewn dyfarniad ble mae gan y person gyfrifoldeb am blentyn neu berson ifanc a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.
Budd-daliadau Profedigaeth
Bydd Taliad Cynhaliaeth Profedigaeth newydd yn dod yn lle’r budd-daliadau profedigaeth presennol (Lwfans Profedigaeth, Talid Profedigaeth a Lwfans Rhiant a Gweddw
Newidiadau Credyd Cynhwysol
Bydd y gyfradd meinhau sy’n berthnasol mewn Credyd Cynhwysol yn gostwng o 65 y cant i 63 y cant. Mae hyn y golygu bydd Credyd Cynhwysol yn gostwng 63 ceiniog yn lle 65 y cant ar gyfer pob £1 y mae person yn ennill.
Disgwylir i rieni sydd â phlentyn ifancaf oed 3, gan gynnwys rhieni sengl, i chwilio am waith os ydyn nhw am hawlio Credyd Cynhwysol.
Bydd rhaid i’r rhai oed 18-21 sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gymryd rhan mewn cyfnod dwys o gefnogaeth ar ddechrau eu hawliad. Ar ôl chwe mis, os nad ydyn nhw’n gweithio bydd disgwyl iddyn nhw wneud cais am brentisiaeth, hyfforddiant, ennill sgiliau byd gwaith neu fynd i leoliad gwaith oni bai eu bod yn cael eu hesgusodi (Ystyrir yn fregus).
Bydd dim hawl awtomatig gan y rhai o dan 21 oed i elfen gostau tai Credyd Cynhwysol ar gyfer hawliadau newydd mewn ardaloedd lle cyflwynwyd y Gwasanaeth Credyd Cynhwysol. Bydd eithriadau er enghraifft rhieni a grwpiau bregus.
Nodyn - Ni fydd y polisi newydd yn effeithio pobl sy’n derbyn BT neu sy’n derbyn costau tai yn eu Credyd Cynhwysol ar adeg y newid ar 1 Ebrill 2017.
Y Cap Budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol
O 1 Ebrill 2017 bydd yr eithriad o’r cap budd-daliadau ar gyfer bod mewn gwaith yn newid fel y bydd person yn cael eu heithrio os yw eu henillion wythnosol yn gyfartal â neu’n fwy nag 16 gwaith eich cyfradd Lleiafswm Cyflog/Cyflog Byw cenedlaethol yn hytrach na chyfradd o £430 y mis/£100 yr wythnos. Mae’r enillion angenrheidiol ar gyfer eithrio person o’r cap budd-daliadau o 1 Ebrill 2017 fel a ganlyn:
- 25 oed ac uwch £120 yr wythnos
- 21 i 24 oed £112 yr wythnos
- 18 i 20 oed £89 yr wythnos
Diwygiwyd Diwethaf: 29/05/2020
Nôl i’r Brig