Cronfa 'Creu Lleoedd' Canol Trefi Torfaen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bellach yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb (DoDd) ar gyfer rhaglen grant newydd sy'n ceisio parhau i adfywio adeiladau allweddol yng Nghanol Trefi Pont-y-pŵl, Blaenafon a Cwmbrân.

Wedi'i ariannu gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a'i gweinyddu gan y Cyngor, bydd Cronfa ‘Creu Lleoedd’ Canol Trefi Torfaen ar gael yn fuan i gefnogi gwella adeiladau'n fewnol ac allanol ac ailddefnyddio lleoedd gwag/lleoedd sy'n cael eu tanddefnyddio o fewn ffiniau diffiniedig Canol y Dref ymhob tref a hynny at ddefnydd masnachol a/neu breswyl trwy ddarparu cyllid grant trwy:

  1. GRONFA GWELLA EIDDO MEWN CANOLFANNAU TREFOL – cefnogi'r sawl sy'n ymgeisio am grantiau i wella blaen adeiladau ac ailddefnyddio gwagleoedd masnachol er mwyn iddynt fod o fudd unwaith eto 
  2. CRONFA GRANT BYW MEWN CANOLFANNAU TREFOL – cefnogi'r sawl sy'n ymgeisio am grantiau i gwblhau gwaith allanol a mewnol i wella gwagleoedd neu leoeddsy’n cael eu tanddefnyddio uwchben blaenau siopau/lleoedd masnachol gyda’r bwriad o gynorthwyo ymgeiswyr i ailddefnyddio’r gwagle hwnnw at ddibenion preswyl.

Mae hefyd yn bosibl cyfuno'r ddwy gronfa grant i gyflawni gwelliannau masnachol a phreswyl gyda'i gilydd.

Ffrâm amser

Mae amserlen gyfyngedig ar y Rhaglen Grant hon. Rhaid derbyn Ffurflenni Mynegi Diddordeb erbyn 19 Awst 2022 ar gyfer cynlluniau, yn barod i'w cyflwyno o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Pwy All Ymgeisio?

Mae'r rhaglen grantiau Creu Lleoedd yn darparu cymorth ariannol wedi'i dargedu i fentrau newydd a phresennol yng nghanol trefi Pont-y-pŵl, Blaenafon a Chwmbrân. Noder y bydd grant ar gael i berchnogion sydd â buddiant rhydd-ddaliadol yn yr eiddo neu i ddeiliaid prydlesi sydd â phrydles o 7 mlynedd o leiaf yn weddill ar yr eiddo, a hynny'n unig.

Pa Gyllid sydd ar Gael?

Nid yw uchafswm y gyfradd ymyrraeth wedi'i chadarnhau eto ond gallai fod hyd at 70% o gyfanswm cost cymwys y prosiect, hyd at uchafswm o £250,000. Er y gall grant o hyd at £250K fod ar gael, yn amodol ar gymhwysedd a statws cyflawni, mae'r gyllideb gyffredinol yn gyfyngedig ac yn gystadleuol.

Rhaid i'r  cais a'r gyfradd ymyrraeth fod yr isafswm sy'n ofynnol i ddod â'r prosiect yn ei flaen.

Gwybodaeth Bellach

Mae Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a’r canllawiau cysylltiedig ar gael i’w lawr lwytho isod:

A fyddech cystal â dychwelyd y ffurflen at ​carla.kavanagh@torfaen.gov.uk

Wrth e-bostio, a fyddech cystal â defnyddio “TCBC PMF EOI” fel y Testun /Cyfeirnod. 

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Neighbourhoods, Planning & Public Protection
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig