Gofal Cymdeithasol a Thai

Jason O’Brien yw’r Cyfarwyddwr – Gofal Cymdeithasol a Thai.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai yn gyfrifol am bob agwedd ar ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, a swyddogaethau tai strategol a statudol y Cyngor. Mae'r stoc dai wedi ei throsglwyddo i Gymdeithas Dai Bron Afon.

Prif nodau ac amcanion y Gyfarwyddiaeth yw:

  • Sicrhau bod pobl sy'n byw yn Nhorfaen yn cael lefel gofal a chymorth o ansawdd uchel, yn unol â'r angen a ganfuwyd yn dilyn asesiad, a fydd yn cael ei ddarparu'n deg a gyda blaenoriaeth i'r rhai sydd â'r angen fwyaf.
  • Sicrhau bod plant ac oedolion bregus, sy'n byw yn Nhorfaen, yn cael eu diogelu rhag niwed.
  • Sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal a bod gan bawb sy'n byw yn Nhorfaen fynediad at gartref teilwng, boed yn rhentu neu brynu.

Byddwn yn trin pawb ag urddas, wrth archwilio a chynyddu dewis, gan ddiogelu pobl, rhannu a rheoli risgiau a hyrwyddo annibyniaeth a gwydnwch.

Byddwn ni'n parhau i drawsnewid ein gwasanaethau gyda'r nod o ddiogelu a gwella ansawdd bywyd pobl leol.

Dylid anfon gohebiaeth i’r:

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Ffôn: 01495 762200
Ffacs: 01633 648794

Diwygiwyd Diwethaf: 19/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol a Thai

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig