COVID 19 - Coronafirws

Mae COVID-19 yn salwch newydd a all effeithio ar eich ysgyfaint a’ch llwybrau anadlu. Firws o’r enw Coronafirws sy’n ei achosi.
Dylai unrhyw un sydd â phryderon ddarllen y wybodaeth sydd ar gael ar y gwefannau a ganlyn: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Llywodraeth Cymru, gov.uk ac GIG
Mae Deddfwriaeth Coronafirws ac arweiniad ar y gyfraith ar gael ar gov.wales.
Profion Llif Unffordd Covid-19
Gallwch gael gafael ar brofion llif unffordd i wirio a oes gennych chi Covid ai peidio drwy fynd i gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119.
Diweddariadau Wythnosol BIPAB am y Brechlyn
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyhoeddi diweddariadau wythnosol am y brechlyn sy'n cynnwys gwybodaeth am ei gyflwyno ar draws Gwent. Mae copïau ar gael ar dudalen Diweddariad Wythnosol BIPAB am y Brechlyn.
Taliadau Hunan-ynysu
Os yw Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi a dweud wrthych am hunan-ynysu, efallai y bydd gennych hawl i gymorth ariannol. Gwnewch gais am Daliad Hunan-ynysut yma.
Os gofynnwyd i'ch plentyn hunan-ynysu a'ch bod wedi cael effaith ariannol o ganlyniad i chi orfod gofalu amdano, efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael cymorth ariannol. Gwnewch gais am Daliad Hunan-ynysu (i Rieni/Gofalwyr) yma.
Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent
Mewn ymateb i strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn Llywodraeth Cymru, mae partneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a’r pum Awdurdod Lleol yng Ngwent wedi ymuno i sefydlu Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent a fydd yn mynd yn fyw ar ddydd Llun 1 Mehefin.
Mae'r gwasanaeth newydd yn galluogi partneriaid i dracio ac olrhain unrhyw achosion Coronafirws newydd sy'n dod i'r amlwg. Gall darganfod lleoliad y rheini sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sy'n dangos symptomau Coronafirws helpu i leihau lledaeniad y firws.
Darganfyddwch mwy am Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent.
Grantiau
Mae nifer o grantiau ar gael i helpu gydag effeithiau COVID-19. Gallwch weld y rhestr o grantiau i helpu gydag effeithiau COVID-19 yma.