Troseddau Casineb a Digwyddiadau sy'n Gysylltiedig â Chasineb

Beth yw Digwyddiad Casineb neu Drosedd Casineb?

Trosedd neu ddigwyddiad a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi neu oherwydd bod rhywun yn tybio ei fod yn gwybod pwy ydych chi.

Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae'r dioddefwr neu unrhyw un arall, yn credu ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu hanabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu dueddfryd rhywiol. Pan fydd digwyddiadau casineb yn dod yn dramgwyddau troseddol fe'u gelwir yn droseddau casineb.

Gallai hyn gynnwys:

  • Cam-drin geiriol
  • Graffiti sarhaus
  • Ymddygiad bygythiol
  • Difrod i eiddo
  • Ymosodiad
  • Bwlio seiber
  • Negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn ymosodol
  • Dwyn arian oddi wrthych

Pam mae hi mor bwysig i adrodd am drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb?

Nid ydym yn cael gwybod am ddigon o ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb. Mae angen i ni ddeall y broblem er mwyn i’r penderfyniadau cywir gael eu gwneud i’ch atal CHI neu aelod o’ch teulu neu’ch ffrindiau CHI rhag dod yn ddioddefwr.

Heb wybod bod y problemau hyn yn digwydd, ni allwn eu hatal rhag digwydd i chi neu rywun arall.

Mae adrodd am y materion hyn yn ein helpu ni a sefydliadau eraill i fesur maint y broblem yn eich ardal leol CHI ac i wneud y pethau iawn i sicrhau bod eich cymuned CHI yn lle gwell, mwy diogel i fyw a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.

Mae’r cymorth cywir yn golygu y gallwn atal dioddefwyr rhag teimlo ar eu pennau eu hunain, yn isel, yn ofnus, mewn trallod neu hyd yn oed yn waeth, cymryd eu bywyd eu hunain.

Pa gymorth sydd ar gael ac â phwy fedraf gysylltu?

Rhoi Gwybod am Gasineb – Cymorth i Ddioddefwyr - Nod Cymorth i Ddioddefwyr yw gwneud pethau’n haws i’r rheini sy’n dioddef troseddau casineb drwy gefnogi’r heddlu a’r gwasanaeth tai lle y gallant, i wneud i bobl deimlo’n ddiogel eto gyda diogelwch personol a diogelwch yn y cartref a chyfeirio pobl at asiantaethau eraill er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth orau.

StopHateUk.org - gwefan ddefnyddiol sydd â chysylltiadau a gwybodaeth am droseddau casineb

Heddlu Gwent - mae ganddynt eu tudalen bwrpasol eu hunain ar gyfer troseddau casineb

I gael ragor o wybodaeth ewch i wefan Diogelu Gwent.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog Cydlyniant Cymunedol

Ffôn: 01495 766097

Nôl i’r Brig