Hysbysiad Preifatrwydd Cyn-gofrestru Ysbrydoli i Weithio
Mae geiriad y ddogfen hon yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) sydd mewn grym o 25 Mai 2018.
Maes Gwasanaeth CBST: NSPPP
Maes Gwaith: Sgiliau a Chyflogadwyedd
Manylion Cyswllt: Gareth Jones
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Ysbrydoli i Weithio hysbysiad llawn cyn cofrestru.
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech chi fynegi pryder ynglŷn â thrin eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion isod.
Swyddog Diogelu Data: Susan Bullock - 01633 647467 - E-bost: dpa@torfaen.gov.uk
Bwriedir yr hysbysiad hwn i'r rheini sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag Ysbrydoli i Weithio, prosiect CGE.
Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol gennych chi?
Mae’r holl ddata sydd wedi ei gynnwys o dan yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei gasglu’n uniongyrchol oddi wrthych.
Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae’r Cyngor yn casglu a phrosesu ystod o wybodaeth amdanoch. Mae’r hysbysiad hwn yn cynnwys:
- Manylion Personol i'ch Adnabod: fel Enw a Dyddiad Geni
- Eich manylion cyswllt
- Manylion am eich cymhwyster ar gyfer y prosiect fel eich statws cyflogaeth presennol a'ch cymwysterau. Efallai y byddwch hefyd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth inni ynghylch pam rydych chi eisiau ein cefnogaeth a beth rydych chi'n gobeithio elwa ohoni
Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth hon mewn amrywiaeth o ffyrdd:
Cesglir eich data trwy sgyrsiau y byddwch yn eu cynnal gydag aelodau o'n staff a ffurflenni "diddordeb" yr ydych yn eu llenwi mewn digwyddiadau.
Byddwn yn storio eich data:
Rydym yn cadw copïau papur gwreiddiol o'r data mewn mannau ffeilio diogel sydd yn cyfyngu ar fynediad. Gall y data hefyd gael ei grynhoi ar daenlenni er mwyn eu neilltuo i weithwyr achos.
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
Mae angen inni brosesu'r data personol hwn i gyflawni tasg er budd y cyhoedd (darpariaeth cyflogadwyedd) yn ein gallu ni fel corff cyhoeddus. Rydym yn gofyn am eich caniatâd ac yn ei dderbyn i gadw’r data hwn cyn ei brosesu.
Byddwn yn defnyddio’r data hwn i:
- Gwneud asesiad byr o'ch cymhwyster ac addasrwydd ar gyfer y gwasanaethau a gynigir gan y prosiect a neilltuo gweithiwr achos i chi.
- Cysylltu â chi am y gefnogaeth y gallwn ei darparu ac, os hoffech, eich cofrestru ar y prosiect.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Nid ydym yn prosesu unrhyw ddata o gategori arbennig.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gydag unrhyw sefydliad arall. Mewn ambell i achos, lle byddech yn cytuno y byddai atgyfeiriad i ddarparwr arall o fudd i chi, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i anfon eich manylion at ddarparwr arall. Bydd y caniatâd hwn yn cael ei gasglu adeg yr atgyfeiriad a chaiff ei ddefnyddio i rannu manylion cyswllt gyda'r darparwr a enwir ar y ffurflen caniatâd yn unig.
A ydy’r data yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?
Na
Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n fwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Ar ben hynny, nid yw gweithwyr yn cael mynediad at ddata ac eithrio i gyflawni eu dyletswyddau.
Pan fydd y Cyngor yn ymgysylltu â thrydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, mae'n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae dyletswydd cyfrinachedd hefyd ar drydydd parti ac mae'n ofynnol iddynt weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba hyd mae’r cyngor yn cadw eich data?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod sy'n angenrheidiol, a hynny'n unig a bydd yn dilyn safonau'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Dim ond cyhyd ag y mae ei angen y cedwir y data hwn. Caiff ei ddinistrio'n ddiogel erbyn y cyfnod y byddwch yn ymuno â'r prosiect yn llawn (lle byddwch yn derbyn rhybudd preifatrwydd gwahanol) neu 3 mis o'r dyddiad y cesglir y data.
A ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd/proffilio gyda’ch data?
Na
Eich Hawliau:
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- gweld a chael copi o’ch data ar gais
- mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
- yr hawl i drawsgludo data
- yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
- yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
- cael gwybod y goblygiadau posibl neu os byddwch yn methu darparu data i’r Cyngor
- cael gwybod am fodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
Os hoffech ymarfer unrhyw rhai o’r hawliau hyn, cysylltwch â Gareth Jones, Gwasanaethau Cymdogaeth a Diogelu’r Cyhoedd Gareth.jones4@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2022
Nôl i’r Brig