Newid i ynni glân

Julian Prosser, Energy Officer

Mae Cyngor Torfaen wedi bod yn buddsoddi mewn adnoddau ynni adnewyddadwy ers 2011. Yn y cyntaf mewn cyfres o flogiau, mae’r swyddog ynni Julian Prosser yn disgrifio ein symudiad i ynni glân. 

Llosgi tanwydd ffosil, megis glo a nwy naturiol, yw un o’r achosion mwyaf o allyriadau deuocsid carbon o gwmpas y byd.

Mae ynni adnewyddadwy, a gynhyrchir o adnoddau naturiol gan gynnwys gwynt, solar a dŵr, yn gyffredinol yn rhydd rhag llygriad.  

Fe wnaethom fuddsoddi gyntaf mewn ynni glân yn 2011 pan osodwyd paneli solar mewn 6 safle i gynhyrchu trydan i’w ddefnyddio ar y safle ac felly lleihau'r lefel o drydan allanol sydd ei angen.

Ers hynny mae ein cynhyrchiant ynni adnewyddadwy wedi cynyddu gan 7 cynllun ynni solar pellach ac un system micro-drydan dŵr ym Mlaenafon, sy’n cynhyrchu trydan ar gyfer Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.

Felly a yw'n cael effaith mewn gwirionedd? Wel, yn 2021/22 fe wnaeth systemau ynni adnewyddadwy’r cyngor leihau dros 77 tunnell o allyriadau CO2, sy’n cyfateb i allyriadau a gynhyrchwyd gan chwe chartref yn y DU, ac arbed £40,000.

Mae’n bwysig nodi bod buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy hefyd yn creu swyddi lleol. Mae gosod paneli solar yn gofyn am drydanwyr, gosodwyr, dylunwyr, maint fesurwyr a sgaffaldwyr yn aml, ac mae’r systemau angen eu cynnal a’u cadw a’u glanhau yn yr hirdymor.

Solar yw’r prif ffynhonnell o ynni adnewyddadwy yn Nhorfaen, ac mae cynlluniau eisoes ar gyfer 19 o systemau ffotofoltäig newydd ledled y fwrdeistref dros y ddwy flynedd nesaf, yn amrywio o 10kW i 120kW o ran maint ac osgoi 155 tunnell arall o allyriadau CO2.

Heblaw am y gosodiadau ynni adnewyddadwy rydym yn parhau i gymryd camau i leihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau trwy newid i oleuadau LED, gosod systemau rheoli gwresogi a goleuo newydd a gwella inswleiddio ar draws ein portffolio o adeiladau. Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer pympiau gwres trydan mewn rhai o'n safleoedd i leihau/cael gwared yn sylweddol ar yr angen i losgi nwy naturiol.

Mae gwaith wedi cychwyn i ddatblygu fferm solar gyntaf Cyngor Torfaen ar safle hen domen wastraff. 

Rydym wedi parhau i gymryd camau i leihau ein defnydd o ynni a thorri allyriadau drwy newid i oleuadau LED a gosod systemau rheoli gwres a goleuadau newydd yn ein hadeiladau. 

Os hoffech chi gael gwybod sut i newid i ynni glân a lleihau eich defnydd o ynni, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn https://energysavingtrust.org.uk. O ystyried y cynnydd mewn costau ynni dros y 15 mis diwethaf, nid oes amser gwell i edrych ar ffyrdd o leihau eich defnydd o nwy/trydan.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig