Blog - Buddion teithio egniol

Donna Edwards-John

Gall y ffordd yr ydym yn teithio o gwmpas gynyddu ein hôl troed carbon unigol. Gall dewis opsiynau gwyrddach leihau ein lefelau CO2, yn ogystal â chael buddion eraill, fel y mae swyddog Teithio Llesol newydd Cyngor Torfaen, Donna Edwards-John yr egluro.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur ac rwy’n dal i leihau faint rwy’n defnyddio fy nghar ac yn parhau i gerdded ar gyfer teithiau byr, fel mynd i’r siopau, ymweld â ffrindiau a theulu ac ar gyfer teithiau lleol i wneud a gwaith.

Rwyf wedi cyfarfod â phreswylwyr drwy ymgynghoriadau, ymweliadau ysgolion, digwyddiadau galw heibio a chyfarfod â grwpiau sydd â diddordeb mewn teithio llesol a chlywed eu profiadau o ddefnyddio llwybrau yn Nhorfaen.

Mae cerdded neu feicio 10 milltir yr wythnos yn arbed tua 500 pwys o allyriadau CO2 y flwyddyn. Mae hefyd yn llosgi 1,000 o galorïau'r wythnos.

Mae cerdded, beicio neu defnyddio sgwter i'r ysgol hefyd yn helpu plant i deimlo'n barod ar gyfer y diwrnod ysgol. Rydym wedi helpu sawl ysgol yn Nhorfaen i gynhyrchu Cynlluniau Ysgol Teithio Llesol, sy’n annog cerdded a beicio i’r ysgol yn lle teithiau car. Mae’r disgyblion wedi mwynhau dysgu am deithio llesol a’r manteision i’w hiechyd a’r amgylchedd. Mae'r plant yn ymwybodol iawn o newid hinsawdd a'r problemau a wynebir ac eisiau gwneud newidiadau ar gyfer dyfodol gwell.

Mae defnyddio dulliau teithio llesol yn lle teithiau car yn helpu i leihau tagfeydd a llygredd wrth gatiau’r ysgol ac mae’n fwy diogel i blant sy’n mynd i mewn ac allan o’r safle.

Wrth gwrs, mae’n bwysig bod gan bobl fynediad at lwybrau cerdded a seiclo diogel a pwrpasol wrth ystyried teithio’n llesol.

Trwy uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd, ein nod yw gwneud teithio llesol y ffordd arferol o fynd o gwmpas ar gyfer teithiau lleol. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn helpu teuluoedd i symud o gwmpas yn ddiogel, yn gwella ansawdd aer ac yn gwneud lleoedd i fyw a gweithio yn fwy deniadol.

Y gobaith hefyd yw y bydd deddfwriaeth newydd i gynyddu nifer y ffyrdd 20mya yng Nghymru o flwyddyn nesaf ymlaen hefyd yn helpu i annog mwy o bobl i gerdded neu feicio yn eu cymunedau.

Bob tair blynedd mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys pobl leol wrth ddiweddaru ein cynlluniau rhwydwaith teithio llesol. Mae Cymru’n unigryw gan fod ganddi ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud hyn – mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) – yn nodi uchelgais clir i roi cerdded a beicio yn ganolog i deithiau lleol. Yr hyn sy’n hollbwysig er mwyn gwneud hyn yn iawn yw bod pobl leol yn cael eu cynnwys yn y sgwrs ynghylch lle mae angen cyfleusterau, fel bod mwy o bobl yn teimlo y gallant ddewis cerdded a beicio yn lle’r car ar gyfer teithiau byr lleol.

Ar ôl cyfnod ymgynghori hir y llynedd, mae Cyngor Torfaen wedi creu’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) newydd o lwybrau arfaethedig newydd yn y fwrdeistref yn rhan o’i ymrwymiadau o dan y Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru. Mae’r mapiau wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo ac ar ôl eu cymeradwyo byddant yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Tel: 01495 762200

Nôl i’r Brig