Cymorth Ariannol i'r Lluoedd Arfog

Ceir isod fanylion sefydliadau a all roi cyngor ariannol i bersonél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol 

Maent yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth ariannol, gan gynnwys cyngor ar arian a budd-daliadau, grantiau a benthyciadau. Os oes gennych hawliad am iawndal sy'n deillio o'ch gwasanaeth, gall y Lleng eich helpu drwy'r broses dan y Cynllun Pensiynau Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Gwefan: www.britishlegion.org.uk

Veterans UK

Maent yn darparu ystod lawn o wybodaeth i bobl sydd wedi cael eu hanafu neu eu hanablu neu sydd mewn profedigaeth oherwydd gwasanaeth yn y lluoedd arfog, gan gynnwys manylion am Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau'r Lluoedd Arfog.

Gwefan: www.veterans-uk.info

Cronfa Elusennol y Magnelwyr Brenhinol

Mae'r gronfa hon yn cefnogi'r holl Ynwyr sy'n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, eu teuluoedd a'u dibynyddion, a theuluoedd a dibynyddion Gynwyr sydd wedi marw.

Rhoddir grantiau un-tro neu ailadroddus ar gyfer yr holl anghenion hanfodol. Yr unig eithriadau yw: ffïoedd cyfreithiol a thriniaeth feddygol breifat. Rhoddir cyngor ar yr holl faterion sy'n ymwneud â lles ac ewyllysgarwch.

Ffôn: 01633 242628
E-bost: 104RA-RHQ-ROSO@mod.uk

Cymdeithas y Magnelwyr Brenhinol 

Mae'r Gymdeithas hon yn cefnogi Cyn-filwyr y Magnelwyr Brenhinol a milwyr sy'n gwasanaethu yn y Magnelwyr Brenhinol a'u teuluoedd. Darperir cymorth materol ac ariannol i gyn-filwyr a phersonél sy'n gwasanaethu yn y Magnelwyr Brenhinol ar sail achosion unigol. 

Ffôn: 01874 613861
E-bost: jamie.sage200@mod.uk
Gwefan: www.theraa.co.uk

Budd-daliadau 

Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael rhai budd-daliadau fel budd-dal tai neu fudd-dal plant.

Bydd llawer o ffactorau'n effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau. Mae cymorth ar gael gyda cheisiadau, apeliadau ac i nodi'r hyn y mae gennych hawl iddo. Rhowch wybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyflwyno budd-dal newydd ar gyfer cyn-bersonél neu bersonél sy'n gwasanaethu sydd wedi cael eu hanafu. Diben hyn yw symleiddio'r system cymorth ariannol ar gyfer aelodau'r Lluoedd Arfog sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol o ganlyniad i'w gwasanaeth.

Gelwir y budd-dal newydd yn Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP) a chaiff ei gyflwyno ar 8 Ebrill 2013.

Gwefan: www.veterans-uk.info

Cyngor ar Bopeth

Mae'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol a chyfredol ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys; dyled, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, gwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudo, materion defnyddwyr a phroblemau eraill.

Gwasanaethau Gostyngiadau

Ymunwch â'r gwasanaeth gostyngiadau hwn ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr er mwyn arbed arian ar-lein ac ar y stryd fawr.

Gwefan: www.defencediscountservice.co.uk

Forces Compare

Peiriant chwilio annibynnol yw Forces Compare sy'n arbenigo mewn cynnig gostyngiadau unigryw ar wasanaethau ariannol / cyfreithiol ar gyfer chyn-filwyr ac aelodau'r lluoedd arfog, gan grŵp dethol o arbenigwyr cyllid milwrol / yswiriant.

Sefydlwyd a rhedir gan gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog EM ac wedi'i leoli ym Mryste.

Gwefan: www.forcescompare.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Ffôn: 01495 762200

E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig