Cynllun Grant y Cyfamod Cymunedol

Mae Cynllun Grant y Cyfamod Cymunedol yn rhoi cymorth ariannol i brosiectau lleol sy'n cryfhau cysylltiadau a chyd-ddealltwriaeth rhwng cymuned y lluoedd arfog a'r gymuned ehangach.

Caiff y cynllun ei weinyddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ran y Llywodraeth, ac mae'n sicrhau bod £30 miliwn ar gael i brosiectau ledled y Deyrnas Unedig dros y pedair blynedd ariannol nesaf. Derbynnir cynigion dim ond o ardaloedd sydd wedi sefydlu cyfamodau cymunedol.

Gall prosiectau wneud cais am grantiau o £100 i £250,000 (er y gellid ystyried ceisiadau am symiau mwy mewn amgylchiadau eithriadol). Mae'n rhaid i bob cais:

  • Fodloni nodau ac amcanion y cyfamod cymunedol
  • Arddangos gwerth am arian
  • Cyd-fynd ag ysbryd, strategaethau a pholisïau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Ffôn: 01495 762200

E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig