Eitemau swmpus o'r cartref

Yn gyntaf, a fyddech cystal ag ystyried rhoi

Circulate Furniture Recycling LogoMewn rhai achosion, gall eich hen ddodrefn gael ei gasglu AM DDIM os yw mewn cyflwr da ac y gall fod o fudd i rywun arall. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Circulate Furniture Recycling ar 01495 793187.

Fel arall, gallwch fynd ag unrhyw eitem o'r cartref nad oes arnoch ei heisiau mwyach i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn New Inn, Pont-y-pŵl. Mae'r oriau agor ar gael yn ardal y wefan ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Gwasanaeth Casglu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithredu Gwasanaeth Casglu Eitemau Swmpus ar gyfer eitemau mwy o wastraff y cartref, fel dodrefn a nwyddau gwynion, am gost o £29 fesul casgliad ar gyfer hyd at 3 eitem. Yna, codir tâl o £7 am bob eitem ychwanegol. Gallwn gasglu hyd at gyfanswm o 8 eitem mewn un ymweliad.

Pa fath o ddeunydd y bydd y gwasanaeth yn ei gasglu?

Byddwn yn casglu:

  • Nwyddau gwynion - rhewgelloedd, poptai, peiriannau golchi
  • Eitemau trydanol bach - hwfer, setiau teledu, cyfrifiaduron, argraffwyr
  • Sofas
  • Dodrefn - byrddau, cadeiriau, soffas, gwelyau
  • Dodrefn ystafelloedd bwyta , byrddau, cadeiriau, desgiau
  • Drysau mewnol, carpedi, linoliwm, ysgolion 
  • Pramiau, pramiau ysgafn
  • Sleidiau, siglenni, pyllau padlo
  • Dodrefn gardd, llinellau rotari, berfâu, peiriannau torri gwair
  • Beiciau

Ni fyddwn yn casglu: 

  • Ffenestri neu fframiau pren ffenestr , gwydr, landeri
  • Asbestos
  • Drysau allanol, drysau garej
  • Dodrefn ystafelloedd ymolchi
  • Bwyleri, tanciau olew, gwresogyddion storio, rheiddiaduron, agas, rayburns, llefydd tân
  • Rwbel adeiladwyr ,teils cegin / ystafell ymolchi
  • Siediau, tai gwydr, ffensys, giatiau
  • darnau ceir
  • Pianos 

Sylwch, rhaid i'r preswylydd ddatgymalu unrhyw eitemau trwm e.e. cypyrddau dillad mawr, cyn iddynt gael eu casglu.

Sut mae'r gwasanaeth casglu'n gweithio?

Os nad yw dodrefn yn addas i'w ailddefnyddio neu ei ailgylchu, byddwn yn ei gasglu am gost o £29 fesul 3 eitem (sylwch nad oes modd ad-dalu'r gost hon). Caiff yr eitemau eu trosglwyddo i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i'w hailgylchu, lle bo hynny'n bosibl.

Byddwn yn trefnu i eitemau gael eu casglu ar ddiwrnod sy'n gyfleus i chi.

Rhaid i bob eitem gael ei rhoi y tu allan, mewn man amlwg, cyn 7.30am ar y diwrnod casglu. Peidiwch â rhoi eitemau allan i'w casglu tan y diwrnod casglu, gan y gallant achosi rhwystr. Ni chaiff eitemau eu casglu o'r tu mewn i'r eiddo.

Gallwch ofyn i ni gasglu eitemau swmpus o’ch cartref yma neu drwy gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig